O fewn y maes geometreg mae polygon (ynganiad: 'pɒlɪɡɒn') yn ffurfplân sydd wedi ei arffinio gan lwybr caeedig neu gylched, wedi ei gyfansoddi o gyfres o linellau syth.
Gelwir y rhannau hyn yn ymylon neu ochrau, a'r pwyntiau lle mae dau ymyl yn cwrdd yw fertigau'r polygon (unigol: fertig) neu gorneli. Gelwir y tu mewn i'r polygon weithiau'n gorff. Mae n-gon yn bolygon gydag 'n' ochr; er enghraifft, mae triongl yn 3-gon. Mae polygon yn enghraifft 2-ddimensiwn o'r polytop mwy cyffredinol mewn nifer o ddimensiynau.
Mae gofynion geometrig sylfaenol polygon wedi'i addasu mewn sawl ffordd i ddiwallu dibenion penodol. Mae mathemategwyr yn aml yn ymwneud â'r gadwyn ffiniol, gaeedig a chyda polygonau syml nad ydynt yn croestori ei hunain. Gellid caniatáu i ffin polygonal groestori ei hun, gan greu polygonau sêr a pholygonau eraill sy'n croestori eu hunain.
Etymoleg
Tarddiad y gair "polygon" yw'r ansoddair Groeg πολύς (polús) "llawer" a γωνία (gōnía) "cornel" neu "ongl". Mae'n bosib mai tarddiad y gair γόνυ (gónu) oedd "y pen-glin", sy'n enghraifft da o ongl.[1]