Mae Simon Davies (ganwyd 23 Hydref 1979) yn gyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol dros Gymru. Cychwynnodd ei yrfa gyda Peterborough United cyn mynd ymlaen i chwarae i Tottenham Hotspur, Everton a Fulham. Gwnaeth dros 350 o ymddangosiadau ar y lefel uchaf yng nghynghrair Lloegr ac enillodd 58 o gapiau gyda thîm pêl-droed cenedlaethol Cymru.