Sian Pari Huws |
---|
Ganwyd | 2 Medi 1960 Llanelwy |
---|
Bu farw | 29 Tachwedd 2015 |
---|
Man preswyl | Spittal, Cilgwri |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
---|
Newyddiadurwraig a darlledwraig oedd Sian Pari Huws (2 Medi 1960 – 29 Tachwedd 2015). Roedd yn gweithio gyda BBC Cymru yng Nghaerdydd ac yn darlledu yn Gymraeg a Saesneg.[1]
Bywgraffiad
Yn ferch i gapten llong, ganed Sian Pari Huws yn Llanelwy ond symudodd y teulu i Gilgwri a threuliodd ei phlentyndod yn Spital, Bebington. Mynychodd Ysgol Ramadeg y Merched, Cilgwri (Wirral Grammar School) ac aeth i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu farw o ganser yn 55 oed ar y 29ain o Dachwedd 2015, gan adael ei phartner Geraint, ei mam Eira a'i brodyr Alun a Geraint a'u teuluoedd.
Gyrfa
Ymunodd a'r BBC yng Nghaerdydd ar ddechrau'r 1980au. Cyflwynodd Good Morning Wales ar BBC Radio Wales o Gaerdydd cyn symud i'r gogledd wrth gyflwyno Good Evening Wales o Fangor.
Roedd yn cyflwyno Post Prynhawn ar Radio Cymru yn achlysurol, ynghyd â nifer o raglenni eraill. Roedd hefyd yn llais cyfarwydd ar Radio 3 yn cyflwyno cyngherddau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Canwr y Byd Caerdydd.
Roedd hi'n gweithio'n llawrydd fel cyflwynydd, cynhyrchydd a hyfforddwraig ym myd y cyfryngau.
Fe gyflwynodd gyfres ar S4C - Hanes Cymru a'r Môr - yn dilyn hanes morwrol y wlad.
Cyfeiriadau