Seoul (Coreeg: 서울) yw prifddinas De Corea a'r ddinas fwyaf yn y wlad, gyda phoblogaeth o dros 9,668,465 (2020)[1] ac mae gan Seoul Fwyaf boblogaeth o 24,105,000 (2016)[2].
Saif y ddinas yn nalgych Afon Han yng ngogledd-orllewin y wlad, tua 50 km i'r de o'r ffin â Gogledd Corea. Ceir y cofnod cyntaf amdani yn 18 CC, pan sefydlodd teyrnas Baekje ei phrifddinas Wiryeseong yn yr hyn sy'n awr yn dde-ddwyrain Seoul. Tyfodd dinas Seoul ei hun o ddinas Namgyeong. Saif y ddinas yn Ardal Prifddinas Genedlaethol Seoul, sydd hefyd yn cynnwys porthladd Incheon a llawer o faestrefi, ac sydd a phoblogaeth o tua 23 miliwn. Mae bron hanner poblogaeth De Corea yn byw yn yr ardal yma.
Yn 2014, dinas Seoul oedd y 4edd dinas fetropolitan fwyaf ei heconomi yn y byd ar ôl Tokyo, Efrog Newydd a Los Angeles.[3] Yn 2017, roedd costau byw yn y ddinas y 6ed uchaf yn y byd.[4][5] Gyda chanolfannau technoleg enfawr wedi eu canoli yn Gangnam a'r Ddinas Cyfryngau Digidol, mae Seoul Fwyaf yn gartref i bencadlys 14 o gwmniau mwya'r byd, sef y Fortune Global 500, gan gynnwys Samsung, LG, a Hyundai.[6][7]
Wedi'i lleoli'n strategol ar hyd glannau Afon Han, mae hanes y ddinas yn ymestyn yn ôl dros ddwy fil o flynyddoedd, ers ei sefydlu yn 18 CC gan bobl Baekje, un o Dair Teyrnas Corea. Yn 1394 dynodwyd y ddinas yn brifddinas Corea o dan y Brenhinllin Joseon (1392-1897), ac yn 1948 yn brifddinas De Corea. Amgylchynir y ddinas gan ardal fynyddig a bryniog, gyda Mynydd Bukhan ar ymyl ogleddol y ddinas. Mae gan Seoul Fwyaf (neu weithiau 'Ardal Prifddinas Seoul') bum Safle Treftadaeth y Byd UNESCO: Changdeok Palace, Caer Hwaseong, Cysegrfa Jongmyo, Namhansanseong a Beddrodau Brenhinol y Brenhinllin Joseon.[8]
Geirdarddiad
Mae enwau blaenorol y ddinas yn cynnwys: Wiryeseong (Coreeg: 위례성; Hanja: 慰禮城, yn y Cyfnod Baekje), Hanyang (한양; 漢陽, yn y Cyfnod Goryeo), Hanseong (한성; 漢城, y Cyfnod Joseon), a Keijō (京城) neu Gyeongseong (경성) yn ystod y cyfnod pan meddiannwyd Corea gan Japan.[9]
Dan reolaeth Japan, newidiwyd yr enw o Hanseong (漢城) i Keijō (京城) gan yr awdurdodau imperialaidd i atal dryswch gyda'r gair cyffelyb 'hanja' '漢' (cyfieithiad o'r gair Coreeg Han (한) sef "gwych"), sydd hefyd yn cyfeirio at y bobl Han o'r Frenhinlyn Han ac sy'n golygu 'Tsieina' mewn Tsieineeg a Japaneg.[10]
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd a c annibyniaeth De Corea, cymerodd y ddinas ei henw presennol, sy'n tarddu o'r gair Corea sy'n golygu "prifddinas". Mae'r gair yma'n tarddu o Seorabeol (Coreeg: 서라벌; Hanja: 徐羅伐), a gyfeiriai'n wreiddiol at Gyeongju, sef prifddinas Silla.[11]
Hanes
Hanes cynnar
Cofnodir enw gwreiddiol y ddinas yn gyntaf fel 'Wiryeseong', prifddinas Baekje (a sefydlwyd yn 18 CC) yn ardal gogledd-ddwyrain o ddinas fodern.[12] Ceir nifer o waliau gwreiddiol y ddinas o'r cyfnod hwn. Gelwir un o'r rhain yn "Pungnaptoseong", yn ne-ddwyrain y ddinas, a chredir fod y wal yma'n dyddio o gyfnod y Wiryeseong.[13] Gan i'r Dair Teyrnas gystadlu am yr ardal strategol hon, trodd rheolaeth o'r ddinas o Baekje i Goguryeo yn y 5g, ac o Goguryeo i Silla yn y 6g.[14]
Y canoloesoedd
Yn y 11g adeiladodd Goryeo, a olynnodd Silla, balas enfawr yn Seoul, y cyfeiriwyd ato fel y "Prifddinas y De". Dyma'r cyfnod pan dyfodd y ddinas fwyaf.[12] Pan ddisodlwyd Goryeo gan Joseon, symudwyd y brifddinas i Seoul, lle arhosodd tan cwymp y frenhinllyn. Gwasanaethodd Palas Gyeongbok, a adeiladwyd yn y 14g, fel y breswylfa frenhinol tan 1592. Gwasanaethodd palas mawr eraill, Changdeokgung, a adeiladwyd ym 1405, fel y prif Palas Brenhinol rhwng 1611-1872. Ar ôl y cyfnod Joseon newid ei enw i Ymerodraeth Corea ym 1897.[12]
Awdurdodau Dosbarth
Rhennir Seoul yn 25 awdurdod dosbarth, neu gu (구) yng Nghoreeg.[15]
↑Yu, Woo-ik; Lee, Chan (6 Tachwedd 2019). "Seoul". Encyclopædia Britannica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mehefin 2015. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2020. The city was popularly called Seoul in Korean during both the Chosŏn (Yi) dynasty (1392–1910) and the period of Japanese rule (1910–45), although the official names in those periods were Hansŏng (Hanseong) and Kyŏngsŏng (Gyeongseong), respectively.