Mae Seltjarnarnes yn fwrdeistref yng Ngwlad yr Iâ sydd yn rhan o Ranbarth y Brifddinas, Reykjavík Fawr. Mae'n gorwedd i'r gogledd orllewin o ganol Reykjavík ar benrhyn. Sefydlwyd ei ffiniau gwleidyddol yn fuan wedi'r Ail Ryfel Byd yn 1947. ei phoblogaeth yn 2017 oedd 4,590. Ei maint yw 2 km swgâr - dyma fwrdeistref leiaf y wlad.
Gorolwg a Hanes
I'r gogledd o'r penrhyn lle saif Seltjararness ceir ynys fechan, Grotta. Adeiladwyd goleudy yma yn 1897 ac mae'n fan nythu i sawl rhywogaeth o adar. Cysylltir yr ynys i'r penrhyn gan bibell a foddir o dan llanw uchel. Awgrymir bod ymwelwyr yn cadarnhau amseroedd y llanw cyn ceisio cerdded i weld y goleudy.[1]
Lleolir Amgueddfa Moddion Nesstofa ar ochr orllewinnol y dref. Codwyd yr adeilad oddeutu 1763 a dyma oedd safle'r Coleg Feddygol nes 1876.
Ceir dwy ysgol in Seltjarnarnes, Mýrarhúsaskóli a Valhúsaskóli.
Mae un plaid, Plaid Annibyniaeth Gwlad yr Iâ, wedi rheoli'r dref ers i etholiadau llawn gychwyn yn 1962. Y pleidiau eraill a gynrychiolir ar gyngor y dref yw Samfylkingin a Neslistinn
Yn 2007 daeth Seltjarnarnes y dref gyntaf yn y byd lle cafodd pob dinesydd fynediad i ffeibr optig.[2]
Chwaraeon
Y tîm pêl-droed lleol yw Íþróttafélagið Grótta sy'n cystadlu yn ail haen y wlad. Mae tîm pêl-llaw Grótta's yn chwarae yn y gynghrair gyntaf. Tîm menywog Grótta oedd pencampwyr y genedl yn 2015 a 2016. Mae gan Grótta hefyd timau gymnasteg a chodi pwysau.[3] Mae'r gymnast enwog, Magnús Scheving a greodd sioe deledu, LazyTown yn byw yn y bwrdeisdref.