Reykjavík Fawr neu Metropol Reykjavik (Islandeg: Höfuðborgarsvæðið, ystyr "Rhanbarth y Brifddinas") yw'r enw a ddefnyddir ar gyfer y brifddinas, Reykjavik a'r chwech bwrdeistref sydd o'i chylch.[1][2] Dyma'r rhanbarth mwyaf trefol ar yr ynys Gwlad yr Iâ.[3]
Mae gan bob bwrdeistref ei chyngor etholedig ei hun. Poblogaeth Metropol Reykjavik yw 216,940 sef, dros 60% o boblogaeth Gwlad yr Iâ a hynny mewn ardal sydd ond ychydig dros 1% o diriogaeth y wlad. Amcangyfrifir maint Reykjavík Fawr gan yr ardal sy'n rhan o diriogaeth y bwrdeistrefi gan gynnwys darnau mawr o dir gwag, ac nid yr ardal craidd drefol ei hun sydd hyd yn oed yn llai.[4] Mae'r bwrdeistrefi'n cyd-weithio'n dda, er enghraifft, ar bolisi casglu sbwriel, trafnidiaeth gyhoeddus a brigâd dân cyfun.
Poblogaeth a Maint
O'r saith bwrdeistref sy'n creu Metropol Reykjavík, Reykjavík yw'r fwyaf o bell ffordd gyda phoblogaeth o 122,460; Kjósarhreppur yw'r lleiaf poblog gyda dim ond 217 preswylydd, ond sydd â'r tiriogaeth fwyaf: 287.7 km2 (111.1 mi sgw). Seltjarnarnes yw'r bwrdeistref lleiaf o ran tirwedd 2.3 km2 (0.89 mi sgw).