Secstant

Offeryn optegol a ddefnyddir mewn llongwriaeth, seryddiaeth a meysydd tebyg i fesur onglau gwrthrychau hirbell yw secstant. Mewn llongwriaeth mae'n mesur yr ong

Secstant
Secstant
Secstant morol pres
Mathofferyn adlewyrchol, offeryn mordwyo, offeryn seryddol Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1757 Edit this on Wikidata
Rhagflaenyddoctant, astrolab Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/07b2x edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF30976 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Offeryn optegol a ddefnyddir mewn llongwriaeth, seryddiaeth a meysydd tebyg i fesur onglau gwrthrychau hirbell yw secstant. Mewn llongwriaeth mae'n mesur yr ongl rhwng y gorwel a chorff nefol (megis yr Haul, y Lleuad, neu seren) i gyfrifo lledred yr arsylwr. Mae'r ddyfais yn cynnwys arc graddedig o 60° ynghlwm wrth fframwaith. Mae'r ffrâm yn cynnwys braich symudol wedi'i gosod ar golyn yng nghanol y cylch, ac mae pen rhydd y fraich yn symud ar hyd yr arc. Ynghlwm wrth y ffrâm mae system o ddrychau a thelesgop bach.

Darlun o secstant gyda labeli

Mae'r fraich symudol, sydd â drych wedi'i osod arni, yn cael ei symud nes bod y corff nefol (er enghraifft, Seren y Gogledd) yn cael ei hadlewyrchu i mewn i ddrych yn unol â'r telesgop ac yn ymddangos, trwy'r telesgop, i gyd-fynd â'r gorwel. Yna darllenir ongl y seren uwchben y gorwel o arc graddedig. O'r ongl hon ac union amser y dydd fel y'i dangosir gan gronomedr morol, gellir cyfrifo'r lledred trwy gyfrwng tablau cyhoeddedig.[1] Mae'r offeryn yn cynnwys hidlenni i amddiffyn y llygaid wrth anelu at yr Haul yn ystod y dydd.

Defnyddio secstant:
1 Anelwch y secstant tuag at y gorwel
2 Gwasgwch y clamp i ryddhau'r fraich
3 Symudwch ddelwedd yr haul i'r gorwel
4 Rhyddhewch y clamp ac addaswch ddelwedd yr haul
5 Siglwch i wirio bod y secstant yn unionsyth
6 Darllenwch yr ongl

Mae gan ffrâm secstant siâp sydd tua 16 o gylch (60°). O hyn y mae'r offeryn yn cael ei enw: sextans yw'r gair Lladin am "chweched".

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) sextant. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Ebrill 2025.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.