Mae Saving Private Ryan yn ffilm o'r Unol Daleithiau o 1998. Sonia'r ffilm am yr ymosodiad ar Normandi yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Steven Spielberg ac ysgrifennwyd y sgript gan Robert Rodat. Mae'r ffilm yn enwog am ddwyster y 24 munud agoriadol, sy'n darlunio'r ymosodiad ar draeth Omaha ar 6 Mehefin 1944. Yna, mae'r ffilm yn dilyn Tom Hanks fel Capten John H. Miller a nifer o Farchfilwyr (Tom Sizemore, Edward Burns, Barry Pepper, Vin Diesel, Giovanni Ribisi, ac Adam Goldberg) wrth iddynt chwilio am awyrfilwr o Adran Awyrlu'r UDA.