Matt Damon |
---|
|
Llais | Matt Damon - The Film Programme - 17 Aug 2007 - b007w3c5.flac |
---|
Ganwyd | Matthew Paige Damon 8 Hydref 1970 Cambridge, Massachusetts |
---|
Man preswyl | Los Angeles |
---|
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | actor ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, llenor, actor llais, actor, cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd, actor teledu |
---|
Taldra | 1.78 metr |
---|
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
---|
Tad | Kent Telfer Damon |
---|
Mam | Nancy June Carlsson Page |
---|
Priod | Luciana Bozán Barroso |
---|
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Wreiddiol, Satellite Award for Best Cast – Motion Picture, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
---|
llofnod |
---|
|
Actor a dyngarwr o'r Unol Daleithiau yw Matthew Paige Damon (ganwyd 8 Hydref 1970). Enillodd Wobr yr Academi am y Sgript Ffilm Wreiddiol Orau am ei sgriptio yn Good Will Hunting a chafodd ei enwebu am chwarae'r prif rôl yn yr un ffilm. Wrth i'w boblogrwydd gynyddu ers y ffilm ym 1997, mae ef bellach wedi cydweithio â sêr mawr ffilmiau'r brif ffrwd a chaiff ei ystyried bellach yn un o brif actorion Hollywood.
Mae Damon wedi serennu mewn ffilmiau poblogaidd megis Saving Private Ryan, The Talented Mr. Ripley, y gyfres [[Ocean's Eleven|Ocean's]], y gyfres Bourne, Syriana, The Good Shepherd a The Departed. Mae ef wedi ennill amryw o wobrau am ei berfformiadau mewn ffilmiau gwahanol ac mae ganddo seren ar Lwybr Enwogrwydd Hollywood. Mae Damon yn un o'r pump ar hugain actor i gael ei dalu fwyaf erioed. Yn 2007, cafodd ei enwi fel y Dyn Byw Mwyaf Rhywiol gan gylchgrawn People.
Bu Damon yn weithredol iawn gyda gwaith elusennol hefyd, gan gynnwys yr Ymgyrch One a'r h2O Africa Foundation. Mae gan Damon a'i wraig, Luciana Bozán Barroso, ddwy ferch, Isabella a Gia, a llysferch Alexia o briodas blaenorol Barroso.
Ffilmyddiaeth
Cyfeiriadau