Santa Montefiore

Awdures o Loegr yw Santa Montefiore (ganwyd 2 Chwefror 1970) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur .

Santa Montefiore
Santa Montefiore
Ganwyd2 Chwefror 1970 Edit this on Wikidata
Caerwynt Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
TadCharles Palmer-Tomkinson Edit this on Wikidata
MamPatricia Dawson Edit this on Wikidata
PriodSimon Sebag Montefiore Edit this on Wikidata
PlantLily Sebag-Montefiore, Sasha Sebag-Montefiore Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://santamontefiore.co.uk/ Edit this on Wikidata

Awdures o Loegr yw Santa Montefiore (ganwyd 2 Chwefror 1970) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur .

Ganed Santa Palmer-Tomkinson yng Nghaerwynt ar 2 Chwefror 1970. Wedi gadael Ysgol y Merched, Sherborne, mynychodd Brifysgol Caerwysg lle astudiodd Sbaeneg ac Eidaleg. [1]

Magwraeth

Ei rhieni yw Charles Palmer-Tomkinson, a oedd yn Uchel Siryf Hampshire, a Patricia Palmer-Tomkinson (g. Dawson), o gefndir Eingl-Ariannin.[2] Roedd ei thad, ac aelodau eraill o'i theulu, yn cynrychioli Prydain mewn sgïo ar lefel Olympaidd. Mae teulu Palmer-Tomkinson yn dirfeddianwyr sylweddol yn Hampshire a Swydd Gaerlŷr. Ei chwaer yw'r sosialite Tara Palmer-Tomkinson[3][4][5][6][7][8][9].

Disgrifiodd ei magwraeth fel un gwarchodol, perffaith, a oedd yn troi o gwmpas ffasiwn a chymdeithasu.[10][11]

Yr awdur

Anfonodd ei llawysgrif gyntaf at sawl asiant llenyddol, gan ddefnyddio enw-awdur er mwyn ymbellhau oddi wrth ei chwaer. Dim ond un asiant, Jo Frank o A P Watt, a fynegodd ddiddordeb, ond arweiniodd hyn at ryfel bidio rhwng sawl cyhoeddwr, gyda Hodder & Stoughton yn rhoi blaenswm chwe ffigwr iddi[11].

Cyhoeddodd Montefiore o leiaf un nofel y flwyddyn er 2001. Mae pedwar o'i llyfrau wedi'u lleoli yn yr Ariannin, lle treuliodd 1989 fel 'blwyddyn i ffwrdd' yn dysgu Saesneg.[10][11] Mae llawer o'i llyfrau wedi gwerthu'n dda, ac erbyn 2019 roedd cyfanswm y gwerthiant dros 6 miliwn o gopiau, gyda chyfieithiadau mewn 25 o ieithoedd.[12]

Fel ei dylanwadau llenyddol pennaf, mae'n rhestru The Count of Monte Cristo gan Alexandre Dumas; House of Mirth gan Edith Wharton; a'r awduron Gabriel Garcia Márquez, Mary Wesley, Eckhart Tolle, a Daphne du Maurier.[10] Isabel Allende yn bwysig iddi hefyd.[13]

Mae hi wedi cyd-ysgrifennu gyda'i gŵr Simon Sebag Montefiore gyfres o lyfrau plant o'r enw The Royal Rabbits of London, a gyhoeddir gan Simon & Schuster. Mae 20th Century Fox wedi prynu hawliau'r ffilm ac yn 2019 roeddent wrthi'n addasu'r gyfres ar gyfer y sgrin fawr.

Llyfryddiaeth

Anrhydeddau


Cyfeiriadau

  1. Galwedigaeth: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, GND 123603307, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 20 Ebrill 2026
  2. Gweler y London Gazettel rhi 53618; tud. 4244; 18 Mawrth 1994
  3. "It girl Tara cuts ribbon at £4.8m sixth-form". Leicester Mercury. Cyrchwyd 5 Hydref 2016.[dolen farw]
  4. Walker, Andrew (30 Awst 2002). "BBC News "Tara Palmer-Tomkinson: Still got It?"".
  5. Cyffredinol: Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 13630771p, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015 (yn es) datos.bne.es, dynodwr BNE (datos.BNE.es) XX1608017, Wikidata Q50358336, http://datos.bne.es, adalwyd 9 Mawrth 2024
  6. Rhyw: Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 13630771p, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015 Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/ Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, GND 123603307, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 21 Gorffennaf 2026
  7. Dyddiad geni: "Santa Montefiore". ISFDB. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Senta Palmer-Tomkinson". The Peerage.
  8. Tad: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  9. Mam: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  10. 10.0 10.1 10.2 Siobhan Kane (3 Awst 2013). "Connemara's gift to Santa". Irish Times. Cyrchwyd 2016-10-05.
  11. 11.0 11.1 11.2 Christa D'Souza (24 Chwefror 2001). ""The lit girl"". Daily Telegraph. Cyrchwyd 5 Hydref 2016.
  12. "Writes of Passage". The Scotsman. 3 Tachwedd 2007
  13. 13.0 13.1 "The World According To... Santa Montefiore". The Independent. 7 Chwefror 2005. Cyrchwyd 16 Hydref 2016. Dywedodd: As a child, I hated it and wanted to be called Jane. I got sick of the jokes. But I now enjoy the fact that nobody else has it. I'm named after a crop of barley that my father produced called "senter", and my mother compromised with Santa, with means "saint" in Spanish.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.