Prifysgol yng Nghaerwysg, Dyfnaint, De-orllewin Lloegr, ydy Prifysgol Caerwysg (Saesneg: University of Exeter). Lleolir y rhan fwyaf o'i gweithgareddau yn ninas Caerwysg, lle mae'n brif sefydliad addysg uwch yr ardal. Mae'n aelod o'r 'Grŵp 1994', sef rhwydwaith o brifysgolion yng ngwledydd Prydain a gogledd Iwerddon sy'n gwneud ymchwil dwys.
Mae gan Brifysgol Caerwysg dri champws, sef: Streatham, St Luke's yng Nghaerwysg, a Tremough yng Nghernyw. Caiff campws Tremough ei gynnal ar y cyd gyda Coleg Prifysgol Falmouth dan fenter Combined Universities in Cornwall (CUC).
Arfbais
Mae arfbais y brifysgol yn symbol o gysylltiadau hanesyddol y brifysgol gyda'i lleoliad. Daw'r castell aur trionglog gyda'i thri thŵr o arfbais Caerwysg, a chredir iddi gynyrchioli Castell Rougemont fel yr awgryma'r cefndir coch. Daw'r 15 Besant aur o amgylch ymyl yr arfbais o arfbais Cernyw, tra daw'r groes werdd ar y cefndir gwyn o arfbais Cyngor Dinas Plymouth. Symbol o addysg yw'r llyfr gydag ymylon aur a'r arwyddair Lladin "lucem sequimur" ("dilynwn y goleuni").
Hanes
Dechreuodd addysg brifysgol yng Nghaerwysg ym 1922, pan drowyd Coleg Goffa Brenhinol Albert yn Goleg Prifysgol De-orllewin Lloegr (University College of the South West of England), a chafodd y coleg ei gynnwys ar restr yr athrofeydd a oedd yn gymwys i dderbyn arian gan y Pwyllgor Grantiau Prifysgol. Sefydlwyd y coleg fel athrofa diriogaethol, gan wneud addysg prifysgol ar gael yn weddol leol ar gyfer myfyrwyr o Ddyfnaint, Cernyw, Dorset a Gwlad yr Haf. Fel y bu'r arfer ar gyfer athrofeydd prifysgol newydd yn ne Lloegr yn y 19feg ganrif hwyr a'r 20g, roedd y brifysgol yn paratori myfyrwyr ar gyfer graddau allanol Prifysgol Llundain. Pan dyfodd y brifysgol ymhellach yn ystod yr 1930au, enillodd fwy o hunanreolaeth, ond cafodd ei hannibynniaeth lwyr ei ohirio gan ddyfodiad yr Ail Ryfel Byd. Derbyniodd y brifysgol ei siarter frenhinol, gan ddod yn brifysgol annibynnol (Prifysgol Caerwysg) ym mis Rhagfyr 1955. Yn y cyfnod wedi'r rhyfel, daeth Prifysgol Caerwysg yn athrofa cenedlaethol, mewn modd tebyg i nifer o brifysgolion eraill y Deyrnas Unedig, gan ddenu myfyrwyr ledled de Prydain. Fel prifysgol sy'n gwneud ymchwil dwys, mae erbyn hyn yn denu nifer fawr o ddigyblion o dramor. Ond, mae gweithgareddau lleol yn parhau, er enghraifft drwy addysgu allfurol yn Nyfnaint a Chernyw, a sefydliad Athrofa Astudiaethau Cernyweg yn Truro.
Cangellorion
1955–1972
|
Mary Cavendish, Duges Dyfnaint
|
1972–1981
|
Is-iarll Amory of Tiverton KG, PC, GCMG, TD, DL
|
1982–1998
|
Syr Rex Richards MA, DPhil, DSc, FRS, FRSC, Hon DSc
|
1998–2005
|
Arglwydd Alexander o Weedon, QC, FRSA, Hon. LLD
|
2006–
|
Floella Benjamin, OBE, DLitt (Hon)
|
Is-gangellorion
Cyfeiriadau
Dolenni allanol