Sambuca

Mae'r sambuca yn ddiod wirodyn melys a chryf Eidalaidd gwirod o anis seren (Illicium verum), a grëwyd yn Civitavecchia, yn ardal Rhufain ym 1851. Cyfeirir at e

Sambuca
Sambuca
Enghraifft o:diod anis Edit this on Wikidata
Mathdiod anis Edit this on Wikidata
DeunyddSambucus Edit this on Wikidata
GwladYr Eidal Edit this on Wikidata
Yn cynnwysethanol, dŵr yfed Edit this on Wikidata
Enw brodorolSambuca Edit this on Wikidata
GwladwriaethYr Eidal Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/07895 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r sambuca yn ddiod wirodyn melys a chryf Eidalaidd gwirod o anis seren (Illicium verum), a grëwyd yn Civitavecchia, yn ardal Rhufain ym 1851. Cyfeirir at ei amrywiaeth fwyaf cyffredin yn aml fel sambuca gwyn i'w wahaniaethu oddi ar amrywiaethau eraill sydd mewn lliw glas dwfn (sambuca du) neu goch llachar (sambuca coch).[1] Fel gwirodydd eraill â blas anis, ceir yr 'effaith ouzo' weithiau wrth ei gyfuno â dŵr. Mae'n cael ei botelu ar o leiaf 38% o alcohol yn ôl cyfaint.[1]

Etymoleg

Mae sambuca wedi fflamio yn ffordd boblogaidd a thrawiadol o yfed y ddiod ... wedi'r fflamau ddiffodd!

Daw Sambuca o'r enw Eidaleg ar y planhigyn eirin ysgaw mae'r gwirod wedi ei wneud ohono. Mae etymoleg sambuca (Lladin: sambūcus neu sābūcus, a ardystiwyd eisoes gan Plinius yr Hynaf)[2] yn ansicr,[3] ond mae'n debyg o darddiad nad yw'n Indo-Ewropeaidd.[4] Yn ôl y cwmni Eidalaidd, Molinari, sy’n arbenigo mewn cynhyrchu sambuca er 1945, oherwydd byddai’r term hwn wedi cael ei ddefnyddio gan Luigi Manzi, un o ragflaenwyr gwirod anis, a fyddai wedi ei enwi felly ar gyfer y tebygrwydd ffonig gyda’r geiriau sambuchelli a acquaioli, yn y drefn honno "anis" a "dŵr" yn nhafodiaith Ischia (ynys oddi ar arfordir Napoli).

Hanes

Mae'n debyg bod gwreiddiau'r rysáit wreiddiol ar gyfer sambuca yn nhraddodiad llysieuaeth Carthusaidd, a oedd unwaith yn adnabyddus am ei diodydd alcoholig a'i baratoadau meddyginiaethol. Fel y soniwyd uchod, dyfyniad ysgaw gwyn yw un o'r cynhwysion, ond nid y prif un, gellir ychwanegu gwylys hefyd.

Cafodd Sambuca ei farchnata ar ddiwedd yr 19g yn Civitavecchia gan Luigi Manzi fel y Sambuca Manzi,[5] sy'n dal i gael ei gynhyrchu heddiw. Yna fe’i lansiwyd yn rhyngwladol gan Angelo Molinari o 1945, ar ôl diwedd y Rhyfel, dan yr enw Sambuca Extra Molinari. Mafalda Molinari oedd pennaeth y cwmni.

Yna trosglwyddodd y rheolwyr i Antonio Molinari. Yn ddiweddarach, daeth ŵyr y sylfaenydd, Mario ac Angelo, yn reolwyr gyfarwyddwyr (ymunodd y trydydd wyres, Inge, â'r bwrdd cyfarwyddwyr).[6]

Paratoi

Mae Sambuca ar gael trwy ddistylliad hadau anis seren, a blasau ffrwythau neu berlysiau eraill ac ychwanegu alcohol a siwgr (350 g/l).

Mae'n boblogaidd i yfed sambuco gyda ffeuen goffi ynddi. Enw'r math yma o sambuco yw, "sambuca con la mosca", sy'n golygu "sambuca gyda'r pryf". Mae'r gweini traddodiadol gyda thri ffa coffi, pob un yn cynrychioli iechyd, hapusrwydd a ffyniant.[7] Gellir tanio’r ddiod i dostio’r ffa coffi ac yna'n, amlwg, yfed yn union wedi i'r fflam ddiffodd.[8]

Blasu a brandiau

Gwahanol brandiau sambuca (ch-dde) Sambuca Inferno Ice, Sambuca Gold, Sambuca Black. Mae'r dafnau aur sy'n arnodio yn Sambuca Gold yn ddail aur go iawn

Mae Sambuca yn cael ei yfed ​​fel aperitif, fel gwirod, gyda chiwbiau , mewn coffi. Hefyd fel nodwyd, fel flambé gyda thri ffa coffi cyfan ( con la mosca, "gyda'r pryf") neu flambé yn uniongyrchol yn y geg, yn ogystal ag mewn coctcêl. Sambuca, a grappa yw'r gwirod a ychwanegir fel arfer i'r ddiod caffè corretto.

Y gwahanol frandiau o Sambuca yw: Amore, Averna, Borghetti, Borsci, Franciacorta, Isolabella, Lupini, Luxardo, Manzi (y cyntaf ym 1851), Massari, Molinari, Ramazzotti, Romana, Sarandrea, SIMAL, Toschi, Villa Colonna, a Vinci .

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 "Most Famous Italian Liquors:". February 4, 2020.
  2. Ernout (1979). Klincksieck (gol.). Dictionnaire étimologique de la langue latine – Histoire de mots (yn Ffrangeg). Parigi. Unknown parameter |name= ignored (help)
  3. Devoto, Giacomo (1979). Avviamento all'etimologia italiana (yn Eidaleg). Milano: Mondadori.
  4. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 627: attempt to call upvalue 'add_prop_cat' (a nil value).
  5. A. J. Rathbun (2011). Ginger bliss and the violet fizz : a cocktail lover's guide to mixing drinks using new and classic liqueurs (yn Saesneg). Boston: Harvard Common Press. ISBN 1558326650. Unknown parameter |consulté le= ignored (|access-date= suggested) (help)
  6. Corriere della Sera. L'Economia (yn Eidaleg). 2014.
  7. Wine & Spirit. William Reed. 2008. https://books.google.com/books?id=JDgsAQAAMAAJ&q=sambuca+con+mosca+holy+trinity. Adalwyd 2013-12-23.
  8. 1001 Foods To Die For. Andrews McMeel Publishing. Nov 1, 2007. t. 935. ISBN 978-0740770432. Cyrchwyd 2013-12-23.

Dolenni allanol

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.