Riesa

Mae Riesa (Sorbeg: Ryzawa) yn dref yn ardal Meißen yn Sacsoni, yr Almaen. Fe'i lleolir ar Afon Elbe, tua 25 milltir i'r gogledd-orllewin o Dresden.

Riesa
Riesa
Mathtref ardal mawr, bwrdeistref trefol yr Almaen Edit this on Wikidata
Poblogaeth29,127 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMarco Müller, Gerti Töpfer Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Villerupt, Mannheim, Rotherham, Suzhou, Sandy, Głogów, Lonato del Garda Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd58.91 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr109 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Elbe Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaStauchitz, Hirschstein Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.3081°N 13.2939°E Edit this on Wikidata
Cod post01587, 01589, 01591 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMarco Müller, Gerti Töpfer Edit this on Wikidata
Map

Mae Riesa (Sorbeg: Ryzawa) yn dref yn ardal Meißen yn Sacsoni, yr Almaen. Fe'i lleolir ar Afon Elbe, tua 25 milltir i'r gogledd-orllewin o Dresden.

Hanes

Mae'r enw Riesa yn deillio o'r gair Slafaidd Riezowe. Mae'r enw hwn, wedi'i gyfieithu fel "Rezoa", yn ymddangos gyntaf ym mis Hydref 1119 mewn dogfen gan y Pab Callixtus II.

Gosodwyd llinell bŵer 110 kV gyntaf Ewrop rhwng Riesa a Lauchhammer ym 1912.[1][2] Rhwng 1952 a 1994, Riesa oedd prif dref y dosbarth (Almaeneg: Kreise; Saesneg: district).

Yn ystod yr 1980au, Riesa oedd pencadlys Grŵp o Luoedd Sofietaidd yn y 9fed Adran Tanciau'r Almaen.

Ar yr 11eg o Ionawr 2025 cynhaliodd y blaid asgell dde eithafol AfD eu cynhadledd blaid ffederal yn Riesa. Protestiodd tua 12,000 o bobl yn erbyn y gynhadledd a rhwystro mynedfeydd i'r dref.

Hanes poblogaeth

Tyfodd y dref o ddechrau'r 20fed ganrif oherwydd diwydiannu. Gostyngodd y boblogaeth ar ôl Ailuno'r Almaen ym 1989. Cafodd y gweithfeydd dur lleol ei leihau a gostyngodd y boblogaeth o 52,000 i 31,000.

Atyniadau

Mae gan Riesa cerflun haearn bwrw wedi ei siapio mewn i foncyff derw, o'r enw Elbquelle, sy'n golygu ffynhonnell yr Elbe, gan Jörg Immendorff. Cafodd ei godi ym 1999 ac mae'n pwyso 234 tunnell ac yn 25m o daldra. Dyma'r cerflun haearn fwyaf yn Ewrop. [3]Mae pobl leol yn galw'r cerflun lawer o enwau eraill, yn fwyaf nodedig "Rostige Eiche", sy'n golygu'r "Dderwen Rhydlyd".

Klosterkirche, Riesa

Yn Riesa mae dwy eglwys nodedig. Adeiladwyd y minstr St. Marien ym 1261 fel ychwanegiad at Abaty Benedictaid.[4] O dan yr Eglwys yn y crypt gallwch weld pergyrff sy'n dyddio i'r 17eg ganrif.[5] Cwblhawyd Eglwys y Trinitatis ym 1897.[6]

Mae mynwent ar Poppitzer Landstraße ar gyfer menywod a dynion Sofietaidd a gafodd eu halltudio i'r Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd a ddaeth yn ddioddefwyr llafur gorfodol yn y gweithfeydd dur. Ar y safle claddu mae yna gerflun Lenin gan y cerflunydd Sofietaidd Nikolai Tomsky, a gafodd ei symud o Sgwâr Neuadd y Dref heddiw ym 1990.[7]

Diwylliant

Mae Riesa yn adnabyddus yn lleol am ei basta, sy'n cael ei gynhyrchu yn Teigwaren Riesa GmbH.[8] Symbol arall o Riesa yw'r Riesaer Zündhölzer, y matsis sy'n cael ei gynhyrchu yno'n draddodiadol.[9]

Mae cynhyrchu dur yn Riesa hefyd yn adnabyddus gyda'r cwmni dur Eidaleg, grwp Feralpi, yn berchen a'r gwaith dur Elbe-Stahlwerke ers 1992.[10]

Chwaraeon

Mae Riesa yn gartref i glwb pêl-droed, BSG Stahl Riesa. Maen nhw'n cystadlu yn y Landesliga Sachsen, chweched haen pêl-droed yr Almaen.

Mae Riesa yn adnabyddus yn lleol am y SACHSENarena, neuadd fawr a gynhaliodd Bencampwriaeth Reslo Sumo Ewrop ym mis Hydref 2003 a Phencampwriaeth Reslo Sumo'r Byd ym mis Hydref 2004. Ers 2015, mae hefyd wedi bod yn gartref i'r International Darts Open, un o'r nifer o ddigwyddiadau ar Daith Ewropeaidd y Professional Darts Corporation. Yn 2023 fe wnaeth Gerwyn Price ennill y daith flynyddol yn Riesa.[11]

Gefeilldrefi

Mae Riesa wedi'i gefeillio â:[12]

Cyfeiriadau

  1. "Geschichte VOLLer Spannung". Stadtwerke Riesa (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2025-07-13.
  2. Schmidt, Hans-Jürgen (2011). Bergbau- und Industriegeschichte – Die erste 110-kV-Anlage Europas. Traditionsverein Braunkohle Lauchhammer e. V. Lauchhammer.
  3. "Stadt Riesa: Elbquelle Immendorff". riesa.de. Cyrchwyd 2025-07-13.
  4. Riesa, Ev-Luth Kirchgemeinde. "Ev.-Luth. Kirchgemeinde Riesa - Klosterkirche" (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2025-07-13.
  5. (PDF) Crypt Burials from the Cloister Church of Riesa (Germany) -Changes of Funerary Customs, Body Treatment, and Attitudes to Death
  6. Riesa, Ev-Luth Kirchgemeinde. "Ev.-Luth. Kirchgemeinde Riesa - Trinitatiskirche" (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2025-07-13.
  7. "Lenin bleibt". LENIN IS STILL AROUND (yn Almaeneg). 2015-11-15. Cyrchwyd 2025-07-13.
  8. "Teigwaren Riesa". Teigwaren Riesa (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2025-07-13.
  9. "Zündholzriesa | Werbemittel". Zündholzriesa (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-07-13.
  10. "Ein neues Walzwerk für FERALPI STAHL". Feralpi Group (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2025-07-13.
  11. Mansfield, Mark (2023-04-03). "Gerwyn Price retains International Darts Open by beating Michael van Gerwen". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-07-13.
  12. "Partnerstädte". riesa.de (yn Almaeneg). Riesa. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-06-02. Cyrchwyd 2021-03-15.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.