Rhys Gwynfor

Rhys Gwynfor
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr-gyfansoddwr Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr a pherfformiwr cerddoriaeth pop Cymraeg yw Rhys Gwynfor. Enillodd Cân i Gymru 2013 gyda'i gân "Mynd i Gorwen hefo Alys". Ers hynny, mae wedi rhyddhau sawl cân boblogaidd gan gynnwys "Bydd Wych". Mae'n hannu o ardal Corwen a mynychodd Ysgol y Berwyn, y Bala.

Gyrfa Gerddorol

Rhys oedd canwr Jessop a’r Sgweiri – enillwyr Cân i Gymru 2013 gyda "Mynd i Gorwen Hefo Alys". Roedd aelodau eraill y grŵp yn cynnwys Osian o’r Candelas a Branwen o Cowbois Rhos Botwnnog. Ers hynny, bu Rhys yn canolbwyntio ar ei gerddoriaeth ei hun.

Arwr cerddorol Rhys ydy Freddie Mercury a Queen, ac mae Rhys yn dweud bod dylanwad Freddie yn gryf ar ei gerddoriaeth a’i berfformiadau. Recordiodd Iwan Huws o Cowbois Rhos Botwnnog ac yntau fersiwn o "It’s a Hard Life" gan Queen.

Cân yr Wythnos Radio Cymru

Dewiswyd ei gân, "Cwmni Gwell" ar gyfer slot 'Cân yr Wythnos' ar Radio Cymru.[1] Recordiwyd y gân fel rhan o sesiwn i raglen Lisa Gwilym ar C2. Cynhyrchydd 'Cwmni Gwell' a 'Rhwng Dau Fyd' gan Robin Llwyd Jones o’r grŵp, Y Bandana, gydag Ifan Jones aelod o’r Candelas yn gyfrifol am y gân arall, "Nofio". Mae tair cân y sesiwn ar wefan C2.[2] .

Labeli Recordio

Recordiodd rhai caneuon fel rhan o 'Sesiynau Stiwdio Sain'. Aeth cryn dipyn o amser heibio cyn iddo wneud dim arall yn gerddorol nes iddo recordio caneuon gyda Recordiau Côsh.[3]

Caneuon

Ymhlith caneuon mwyaf adnabyddus Rhys mae "Bydd Wych" a dyma'i gân fwyaf boblogaidd o ran gwrandawiadau, ac erbyn Medi 2021, roedd y gân wedi derbyn dros 60,000 ffrydiad ar Spotify a thros 50,000 gwyliad ar Youtube[4] erbyn Medi 2021. Cân "Canolfan Arddio" oedd yr ail gân fwyaf boblogaidd ganddo o ran ffrydio gyda dros 30,000 ffrydiad erbyn Medi 2021.[5] Bu i Rhys hefyd recordio fersiwn o "Bydd Wych" gyda Lisa Angharad o'r triawd, Sorela ar gyfer cyfres Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C.[6] Ym mis Rhagfyr 2020 rhyddhaodd gân Nadoligaidd, "Mae 'ne rhywbeth am y 'Dolig" gydag Osian Huw Williams (Osian Candelas).[7]

Bydd Wych gan y Ffermwyr Ifainc

Yn 2020 recordiodd aelodaeu Mudiad Ffermwyr Ifanc ei fersiwn hwy o 'Bydd Wych' fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru a hefyd i godi ymwybyddiaeth o anhwylderau iechyd meddwl.[8] Arianwyd y prosiect gan Ddydd Miwsig Cymru (Llywodraeth Cymru) a chyfarwyddwyd y gân gan Lisa Angharad (cariad Rhys) a recordio yn Stiwdio Drwm, Llanllyfni. Rhyddhawyd y gân gan Recordiau Côsh a bu i'r gân yn 'Trac yr Wythnos' ar Radio Cymru a'i chwarae am y tro cyntaf yno.

Dwylo Dros y Môr

Ar ddiwedd 2020 rhyddhawyd fersiwn newydd o'r gân "Dwylo Dros y Môr", cân a ryddhawyd yn wreiddiol yn 1985 i godi arian i ddioddefwyr newin Ethiopia y flwyddyn honno.[9] Roedd yr elw yn 2020 yn mynd tuag at Sefydliad Cymunedol Cymru.[10] Fel y fersiwn wreiddiol o'r gân, oedd yn cynnwys cantorion adnabyddus yr 1980au, roedd fersiwn 2020 yn cynnwys enwogion Sîn Roc Gymraeg y cyfnod megis: Elin Fflur, Alys Williams, Ifan Pritchard (Gwilym), Heledd Watkins (HMS Morris), Sorela, Adwaith, Casi Wyn, Glain Rhys, Gwilym Bowen Rhys, Kizzy Crawford, Ffion Emyr.

Dolenni

Cyferiadau

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!