Ramat David

Ramat David
Mathanheddiad dynol, Cibwts Edit this on Wikidata
Poblogaeth479 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1926 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirJezreel Valley Regional Council Edit this on Wikidata
GwladBaner Israel Israel
Baner Palesteina Palesteina
Uwch y môr86 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.6786°N 35.2038°E Edit this on Wikidata
Map
David Lloyd George 1917

Cibwts yng ngogledd Israel yw Ramat David (llyth. Uchelderau Dafydd).[1] Mae yn Nyffryn Jezreel ger Canolfan Awyr Ramat David, ac mae'n dod o dan awdurdodaeth Cyngor Rhanbarthol Dyffryn Jezreel. Yn 2021 roedd 542 o bobl yn byw yno.

Hanes

Sefydlwyd y cibwts ym 1926. Cafodd ei enwi ar ôl David Lloyd George, Cymro, arweinydd y Blaid Ryddfrydol, a Seionydd Cristnogol a oedd yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig pan wnaed Datganiad Balfour. Lluniodd y pensaer Almaenig-Iddewig Richard Kauffmann gynlluniau ar gyfer dyluniad Ramat David ym 1931.[2]

Cibwts Ramat David 1936

Yn gynnar ym 1941 glaniodd Roald Dahl (a anwyd yng Nghymru) mewn awyren RAF Hurricane yn Ramat David.[3] Disgrifiodd y plant (a oedd yn ffoaduriaid Iddewig o'r Almaen) a oedd yn byw yno bryd hynny yn ei hunangofiant Going Solo.[4]

Ar 22 Mai 1948 ymosododd awyrennau Eifftaidd ar y ganolfan awyr, gan ddifrodi a dinistrio nifer o awyrennau Llu Awyr Brenhinol Prydain.[5]

Pobl nodedig

Ruth Westheimer
  • Ze'ev Herring (1910-1988), gwleidydd a wasanaethodd fel aelod o'r Knesset ar gyfer yr Alignment rhwng 1969 a 1974
  • Ruth Westheimer (ganwyd Karola Siegel, 1928; a elwir yn "Dr. Ruth") therapydd rhyw Almaeneg-Americanaidd, cyflwynydd sioe siarad, awdur, athro, goroeswr yr Holocost, a chyn-saethwr cudd gyda'r Haganah[6]
  • Zvi Yanai (1935–2013), gwas sifil ac awdur.

Cyfeiriadau

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!