Llythyr gan Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig Arthur Balfour oedd Datganiad Balfour (dyddiedig 2 Tachwedd 1917) a ddanfonwyd at y Barwn Rothschild, un o arweinwyr y gymuned Iddewig yng ngwledydd Prydain, i'w drosglwyddo i Ffederasiwn Seionaidd Prydain Fawr ac Iwerddon. Roedd y llythyr yn cefnogi cymryd tir oddi wrth y Palesteiniaid a'i roi i greu "cartref cenedlaethol", sut bynnag y dehonglir hynny, ym Mhalesteina i'r Iddewon:
“
|
His Majesty's government view with favour the establishment in Palestine of a national home for the Jewish people, and will use their best endeavours to facilitate the achievement of this object, it being clearly understood that nothing shall be done which may prejudice the civil and religious rights of existing non-Jewish communities in Palestine, or the rights and political status enjoyed by Jews in any other country.[1]
|
”
|
Cytunodd nifer o wledydd, mewn egwyddor, ar brif bwyntiau'r Datganiad yng Nghynhadledd San Remo ac yna cynhwyswyd Datganiad Balfour yn ffurfiol yng Nghytundeb Sèvres, y cytundeb heddwch â Thwrci a'r Mandad dros Balesteina.
Fodd bynnag, ni ofynnwyd i unrhyw gorff neu arweinwyr Palesteinaidd am eu barn nhw. Nid enwyd y Palesteinaid yn amlwg yn y Datganiad ond cyfeiriwyd atynt yn anuniongyrchol â'r geiriau "existing non-Jewish communities in Palestine". Yr unig hawliau y bwriedid eu rhoi i'r cymunedau hyn oedd hawliau sifil a chrefyddol, nid hawliau gwleidyddol a chenedlaethol. Ar y pryd, Arabiaid oedd tua 94% o boblogaeth Palesteina.[2]
Er nad yw'r geiriau "national home" yn y Datganiad yn hollol ddiamwys, fe wnaed eu hystyr yn glir i Chaim Weizmann, llywydd Sefydliad Seionyddol y Byd, mewn cinio preifat yng nghartref Balfour ym 1922, gan Lloyd George, Arthur Balfour, a Winston Churchill, yr Ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau. Ystyr "Jewish national home" yn ôl y triwyr hyn oedd "an eventual Jewish state" a dyna a fuasai'r ystyr o'r dechrau. Llwyddodd Lloyd George i argyhoeddi Weizmann na fyddai Prydain byth yn caniatáu llywodraeth gynrychioladol ym Mhalesteina ac ni wnaeth hynny erioed.[3] Oherwydd hyn gellir ystyried y Datganiad yn garreg sylfaen Gwladwriaeth Israel ac yn sail ffurfiol i'r broses o gymryd tir Palesteina oddi wrth y bobl a oedd eisoes yn byw yno. Cedwir y ddogfen wreiddiol yn y Llyfrgell Brydeinig.
Galeri
Cyfeiriadau
Darllen pellach
- Schneer, Jonathan. The Balfour Declaration: The Origins of the Arab-Israeli Conflict (Random House, 2010); ISBN 978-1-4000-6532-5