Caerfyrddin Llundain Caerdydd Abertawe, Cymru
Prifysgol sydd wedi'i lleoli yng Nghaerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan ac Abertawe yw Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.[1][2] Mae hefyd ganddo gampws yn Llundain.
Yn Rhagfyr 2009, unwyd Coleg y Drindod, Caerfyrddin â Phrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan i greu'r brifysgol newydd hon, a dderbyniodd ei siartr brenhinol ar 21 Mehefin 2010.[3] Mae'r coleg ar bedwar campws: Llambed, Caerfyrddin, Abertawe a Llundain.[4][5][6]
Unwyd dau o sefydliadau hynaf Cymru yn 2010, sef Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod.[7][8] Yn 2011, cyhoeddwyd y byddai Prifysgol Cymru hefyd yn uno gyda'r Drindod Dewi Sant.[9][10][11] Ar 1 Awst 2013 unodd gyda Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.[12]