Mewn technoleg gwybodaeth, mae pensaernïaeth data yn cynnwys modelu data, polisïau, rheolau neu safonau'r data a gesglir, a sut y caiff ei gasglu, ei storio,
Mewn technoleg gwybodaeth, mae pensaernïaeth data yn cynnwys modelu data, polisïau, rheolau neu safonau'r data a gesglir, a sut y caiff ei gasglu, ei storio, ei drefnu, ei integreiddio, a'i ddefnyddio mewn systemau data o fewn cwmnïau a sefydliadau.[1]
Fel arfer, mae pensaernïaeth data yn gosod y safonau ar gyfer holl systemau data fel model o'r rhyngweithio rhwng y systemau data hynny. Dylai integreiddio data, er enghraifft, ddibynnu ar safonau pensaernïaeth data gan fod integreiddio data yn gofyn am ryngweithio data rhwng dwy system ddata neu ragor. Mae pensaernïaeth data, yn rhannol, yn disgrifio'r strwythurau data a ddefnyddir gan feddalwedd busnes a'i rhaglenni cyfrifiadurol. Mae pensaernïaeth data yn mynd i'r afael â data a storiwyd a data a ddefnyddir o ddydd i ddydd. Disgrifia hefyd sut sut mae data'n cael ei brosesu, ei storio a'i ddefnyddio mewn system wybodaeth. Mae'n darparu meini prawf ar gyfer gweithrediadau prosesu data er mwyn ei gwneud hi'n bosibl dylunio llif data a hefyd rheoli llif y data o fewn y system.
Gelwir y person sy'n gyfrifol am weithredu y drefn bensaernïol hon yn "bensaer data". Ystyrir tri pheth allweddol:
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.