Patricia Wettig

Patricia Wettig
GanwydPatricia Anne Wettig Edit this on Wikidata
4 Rhagfyr 1951 Edit this on Wikidata
Cincinnati Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Wesleaidd Ohio
  • Prifysgol Smith, Massachusetts
  • Stiwdio William Esper
  • Prifysgol y Deml Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, dramodydd, actor llwyfan, actor teledu, actor ffilm, llenor Edit this on Wikidata
PriodKen Olin Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr 'Emmy' i Actores Arbennig mewn Cyfres Ddrama, Gwobr 'Emmy' i Actores Arbennig mewn Cyfres Ddrama, Primetime Emmy Award for Outstanding Supporting Actress in a Drama Series Edit this on Wikidata

Awdur a dramodydd Americanaidd yw Patricia Wettig (ganwyd 4 Rhagfyr 1951) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel dramodydd, actor llwyfan, actor teledu actor ffilm ac awdur.[1]

Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Nancy Weston yn y gyfres deledu Thirtysomething (1987–1991), a derbyniodd Wobr Golden Globe a thair Gwobr Primetime Emmy. Ymhlith y gweithiau teledu nodedig eraill mae ei phortread o Caroline Reynolds yn y gyfres ddrama Prison Break (2005-2007) a Holly Harper yn y gyfres ddrama Brothers & Sisters (2006–2011). Serennodd hefyd yn y ffilmiau City Slickers (1991), City Slickers II: The Legend of Curly's Gold (1994), a The Langoliers (1995).[2][3][4]

Patricia Wettig a Ken Olin ar y carped coch yn 41ain Gwobrau Blynyddol Emmy

Fe'i ganed yn Cincinnati a mynychodd Brifysgol Wesleaidd Ohio, Prifysgol Smith, Massachusetts a Stiwdio William Esper.[5] Ei mam oedd Florence (g. Morlock) ac enw ei thad oedd Clifford Neal Wettig, hyfforddwr pêl-fasged ysgol uwchradd. Mae ganddi dair chwaer: Pam, Phyllis, a Peggy. Cafodd ei magu yn Grove City, Pennsylvania a graddiodd ym 1970. Yn ddiweddarach, derbyniodd Feistr yn y Celfyddydau Cain mewn ysgrifennu dramâu gan Goleg Smith yn 2001. [6][7][8][9]

Personol

Mae Wettig yn briod â'r actor a'r cynhyrchydd Ken Olin; mae ganddyn nhw ddau o blant, mab Clifford (g. 1983) a'u merch Roxanne "Roxy" Olin (g. 1985).[1]

Anrhydeddau

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr 'Emmy' i Actores Arbennig mewn Cyfres Ddrama (1990), Gwobr 'Emmy' i Actores Arbennig mewn Cyfres Ddrama (1991), Primetime Emmy Award for Outstanding Supporting Actress in a Drama Series (1988) .

Ffilmyddiaeth

Ffilmiau

Blwyddyn Teitl Rol Notes
1991 Guilty by Suspicion Dorothy Nolan
1991 City Slickers Barbara Robbins
1993 Me and Veronica Veronica
1994 City Slickers II: The Legend of Curly's Gold Barbara Robbins
1997 Bongwater Mom
1998 Dancer, Texas Pop. 81 Mrs. Lusk
1999 Nightmare in Big Sky Country Judge

Ffilmiau teledu

Year Title Role Notes
1982 Parole Maureen
1988 Police Story: Cop Killer Dede Mandell
1991 Silent Motive Laura Bardell
1992 Taking Back My Life: The Nancy Ziegenmeyer Story Nancy Ziegenmeyer
1994 Parallel Lives Rebecca Ferguson Stone
1995 Nothing But the Truth Jill Ross
1995 Kansas Virginia 'Giny' Mae Farley
2005 Lackawanna Blues Laura's Mother
2010 The 19th Wife BeckyLyn

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 "Patricia Wettig biography". TV Guide. Cyrchwyd 18 Mehein 2013. Check date values in: |accessdate= (help)
  2. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://esperstudio.com/alumni-of-esper-studio/. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg. dyddiad cyrchiad: 5 Chwefror 2017.
  3. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 12 Gorffennaf 2024.
  4. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014
  5. "GHC417.html". Wettig.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-04. Cyrchwyd 2013-06-18. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. Alma mater: http://esperstudio.com/alumni-of-esper-studio/. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg. dyddiad cyrchiad: 5 Chwefror 2017.
  7. Galwedigaeth: http://esperstudio.com/alumni-of-esper-studio/. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg. dyddiad cyrchiad: 5 Chwefror 2017.
  8. Wettig, Patricia. F2M. Dramatist Playservice. 2012. ISBN 9780822226338
  9. Hetrick, Adam. “Patricia Wettig's F2M, With Keira Keeley, Ken Olin, Begins Powerhouse Run Mehefin 29”. Playbill. 29 Mehefin 2011 [1]

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!