Roedd Nîmes, fel Colonia Nemausensis, yn ddinas bwysig yn y cyfnod Rhufeinig. Mae'r amffitheatr Rufeinig, Arena Nîmes, yn nodedig, tra ystyrir y Maison Carrée yr enghraifft o deml Rufeinig sydd wedi goroesi yn y cyflwr gorau. Rhyw 20 km i'r gogledd-orllewin, mae'r Pont du Gard, acwedwct oedd yn cario dŵr i'r ddinas.
Daw'r gair denim am y brethyn o "de Nîmes" ("o Nîmes").