Mynachdy San Lourenzo de Carboeiro

42°45′18.09″N 8°14′48.34″W / 42.7550250°N 8.2467611°W / 42.7550250; -8.2467611

San Lourenzo de Carboeiro
Mosteiro de San Lourenzo de Carboeiro
Y mynachdy o'r tu allan
Enwau eraillMosteiro de San Lourenzo de Carboeiro
Gwybodaeth gyffredinol
Arddull bensaernïolRomanesque
LleoliadPontevedra, Galisia
GwladSbaen
Dechrau adeiladucyn 939
Cynllunio ac adeiladu
ClientUrdd Sant Bened

Mynachdy San Lourenzo de Carboeiro yw un o adeialdau pwysicaf o ran ei bensaerniaeth Romanesque yng Ngalisia sy'n un o wledydd ymreolaethol Sbaen. Fe'i lleolwyd ger Afon Deza yn Carboeiro, Silleda, Rhanbarth Pontevedra. Meudwy o'r enw Egica oedd perchennog y tir ac fe'i gwerthodd cyn 939 i Doña Tareixa Eiriz a Don Gonzalo Betote, ieirll o Deza.

Roedd y mynachdy'n perthyn i Urdd Sant Bened a gellir ei olrhain yn ôl i'r 10g. Roedd yn ei anterth rhwng y 11fed a'r 12g ac mae heddiw'n dal i fod mewn cyflwr da yn dilyn gwaith adfer yn ail hanner yr 20g. Yn 2015 roedd y gwaith o gynnal a chadw'r adeilad wedi ailddechrau. Saif y trefi Vigo 101 Km i ffwrdd, gyda Pontevedra 75 Km, Ourense 76 Km a Santiago de Compostela 38 Km.[1]

Ceir tair ystlys gyda phedwearedd ar hyd y groesfa (neu 'transept'). Ceir pedair colofn o bopty'r fynedfa fwaog, garreg - sy'n frith o gerfiadau o gymeriadau (cerddorion yn bennaf) allan o Lyfr y Datguddiad - pencampwaith o gelfyddyd yn ôl y pensaeri "heb ei debyg yn unman arall". Fodd bynnag mae'r fynedfa i Portal of La Gloria, sydd yn eithaf agos, yr un mor gywrain.

Dechreuodd y dirywiad yn y 15g, ac yn 1500 drwy orchymyn gan Ferdinand ac Isabella, fe'i israddiwyd i statws 'priordy' gyda rhan ohono'n mynd i berchnogaeth fferm. Ar un cyfnod, bu'n garchar. Ceir ar y muriau ambell ysgrif, gan gynnwys: 'ERA MCCVIIII KALENDAS' IY sef: 'Y Cyntaf o Fehefin 1171'.

Ffilm

Yn 1965, ffilmiwyd Cotolay ym Mynachdy San Lourenzo de Carboeiro, wedi'i chynhyrchu gan Nieves Conde, gyda nifer o drigolion lleol yr ardal yn cymryd rhan.

Cyfeiriadau

  1. http://www.turgalicia.es; Saesneg; adalwyd 29 Mehefin 2015

Gweler hefyd

Dolen allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!