Musti

Mae Musti (neu Mustis) yn safle archaeolegol ger pentref El Krib, i'r de o Téboursouk yng ngogledd Tiwnisia, tua 120 km i'r gorllewin o Diwnis. Mae'n gorw

Musti
Musti
Mathsafle archaeolegol, dinas hynafol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau36.41°N 9.0833°E Edit this on Wikidata
Map

Mae Musti (neu Mustis) yn safle archaeolegol ger pentref El Krib, i'r de o Téboursouk yng ngogledd Tiwnisia, tua 120 km i'r gorllewin o Diwnis. Mae'n gorwedd mewn ardal a fu'n gartref i sawl dinas a thref yng nghyfnod yr Henfyd ac yn agos i safle hen ddinas Rufeinig Dougga, i'r gogledd. Dyma'r ardal amaethyddol a gyflenwai Rhufain â gwenith am ganrifoedd. Gorweddai yn nhalaith Rufeinig Affrica.

Hanes

Adfeilion Rhufeinig ym Musti

Roedd Musti yn ddinas Rhufeinig o bwys yn gorwedd ar hyd ffordd Rufeinig a gysylltai Carthago i'r dwyrain a Tébessa (yn Algeria heddiw) i'r gorllewin. Cafodd terfynau'r ddinas eu gosod yn y flwyddyn 238 pan godwyd dwy fwa fuddugoliaeth ar ddau ben y ffordd Rufeinig sy'n rhedeg trwy Musti. Tua diwedd yr 2g, planiodd y cadfridog Rhufeinig Marius goloni o'i filwyr profiadol yno. Yn ddiweddarach rhoddwyd statws dinas lawn iddi (naill ai gan Iŵl Cesar neu Augustus). Ceir tystiolaeth am bresenoldeb dinasyddion Rhufeinig yno - marsiandwyr yn bennaf - o gyfnod gweriniaeth Rhufain ymlaen, ond mae'n deg tybio fod llawer o'r trigolion yn frodorion Affricanaidd. Fel yn achos sawl dinas Rufeinig arall yn y wlad, trowyd Musti yn gaer gan y Bysantiaid a chwareai ei ran yn yr ymgiprys am rym rhwng Bysantiaid Tiwnisia a'r Fandaliaid.

Heddiw dim ond rhan fach o'r safle sydd wedi'i chloddio, ond mae'n adnabyddus am ei olion archaeolegol a'i arysgrifau : ceir yno fforwm Rufeinig, olion marchnad, nifer o demlau, cronfeydd dŵr dinesig, caer Fysantaidd a sawl tŷ Rhufeinig.

Wrth y fynedfa i'r ddinas ceir cwrt mawr agored wedi ei bafio sy'n arwain at borth diddorol gyda llwybrau hyd ei ochrau a gysgodir gan doeau.

Yn ymyl y porth ceir olion tair teml cysegredig i Ceres, Plwton ac Apollo. Ceir yn ogystal adfeilion eglwys, basilica a bedyddfa yn ymyl y gaer Fysantaidd anferth.

Llyfryddiaeth

  • Claude Lepelley (gol.), Rome et l'intégration de l'Empire. 44 av. J.-C. – 260 ap. J.-C., cyfrol 2, 'Approches régionales du Haut-Empire romain' (Paris: Presses universitaires de France (Nouvelles Clio), 1998)

Dolenni allanol


Drapeau de la Tunisie Safleoedd archaeolegol Tiwnisia Antiquités

Bulla Regia · Carthago · Chemtou · Cilium · Dougga · Amffitheatr El Jem · Gigthis · Haïdra · Kerkouane ·
Mactaris · Musti · Oudna · Pheradi Majus · Sbeïtla · Thapsus · Thuburbo Majus · Utica

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.