Actor a darlithydd drama yn Y Coleg Normal, Bangor oedd Morien Phillips (1930 - 12 Awst 2009). Bu'n actio yn nyddiau cynnar Cwmni Theatr Cymru ac roedd yn adna
| Morien Phillips | |
|---|---|
| Ganwyd | Morien Llewelyn Phillips 1930 Rhosllannerchrugog |
| Bu farw | 12 Awst 2009 Bangor, Gwynedd. |
| Galwedigaeth | actor a darlithydd drama |
| Cysylltir gyda | Y Coleg Normal, Bangor |
| Priod | Morfydd Maesaleg |
Actor a darlithydd drama yn Y Coleg Normal, Bangor oedd Morien Phillips (1930 - 12 Awst 2009). Bu'n actio yn nyddiau cynnar Cwmni Theatr Cymru ac roedd yn adnabyddus ym myd y ddrama yng Nghymru fel actor a chynhyrchydd. Bu hefyd yn arweinydd noson lawen, yn feirniad eisteddfod ac yn aelod o dîm Penrhosgarnedd ar y rhaglen Talwrn y Beirdd.
Yn enedigol o ardal Rhosllannerchrugog ger Wrecsam, derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon a'r Coleg Normal ym Mangor, lle bu wedyn yn darlithio am bron i chwarter canrif yn yr adran ddrama. Treuliodd ddwy flynedd yn y llu awyr, cyn dod yn athro a phrifathro yn ysgol Treffynnon.[1] Bu hefyd yn fyfyriwr yn LAMDA, Llundain ble yr enillodd fedalau aur ac arian am areithyddiaeth mewn drama.[2]
Bu farw yn Bangor, Gwynedd ar y 12 Awst 2009 yn 79 oed.[1] Roedd yn briod â’r delynores Morfydd Maesaleg ac mae ganddynt ddwy ferch.


Bu'n aelod o Gwmni Theatr Cymru yn y 1960au, ac yn aelod o'r cwmni a lwyfannodd y ddrama Problemau Prifysgol am y tro cyntaf, a hynny yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Barri ym 1968.
Portreadodd amrywiaeth o gymeriadau mewn cyfresi teledu a ffilmiau i S4C.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.