Math o gell gwyn y gwaed yw Mastgell. Yn benodol, mae'n fath o granulocyte sy'n tarddu o'r gell fonyn myeloid sy'n rhan o'r systemau
| Enghraifft o: | math o gell |
|---|---|
| Math | cell hemal gwahaniaethol |
| Enw brodorol | mastocytus |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01lpb0 |
| Thesawrws y BNCF | 35100 |
Math o gell gwyn y gwaed yw Mastgell. Yn benodol, mae'n fath o granulocyte sy'n tarddu o'r gell fonyn myeloid sy'n rhan o'r systemau imiwnyddol a niwroimiwnyddol ac yn cynnwys nifer o ronynnau sy'n gyfoethog o histamin a heparin. Er eu bod yn cael eu hadnabod orau am eu rhan mewn alergedd a anaphylaxis, mae gan fasgelloedd ran bwysig hefyd yn gwarchod y corff, yn cydrannu at wella clwyfau, angiogenesis, goddefiad imiwnyddol, amddiffyniad yn erbyn pathogenau, a ffwythiant gwahanfur gwaed ac ymenydd.[1]
Mae'r mastgell yn debyg iawn o ran ei wedd a'i waith i'r basoffil, math arall o gell gwyn y gwaed. Er y credid ar un adeg mai basoffilau oedd yn preswylio mewn meinwe oedd y mastgelloedd, mae wedi'i ddangos bod y ddau gell yn datblygu o wahanol linachau hematopoietig ac na fedrant felly fod yr un celloedd.[2]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.