Mark Lewis Jones

Mark Lewis Jones
Ganwyd1964 Edit this on Wikidata
Rhosllannerchrugog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor llwyfan, actor teledu Edit this on Wikidata

Actor o Gymru yw Mark Lewis Jones (ganwyd 1964), mae ei rannau yn cynnwys chwarae arolygydd heddlu yng nghyfres ddrama'r BBC 55 Degrees North, pysgotwr morfilod yn y ffilm Master and Commander: The Far Side of the World, y milwr Tecton yn Troy, Rob Morgan yn y gyfres Stella a Chapten Moden Canady yn Star Wars: The Last Jedi.

Bywyd a gyrfa

Ganwyd Mark Lewis Jones yn Rhosllannerchrugog, Wrecsam, Dechreuodd action yn ei arddegau gyda Theatr Ieuenctid Clwyd[1] a fe'i hyfforddwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.[2] Mae wedi actio gyda'r Royal Shakespeare Company,[3] ac yn Theatr y Glôb Shakespeare yn Llundain.

Mae Lewis Jones wedi gwneud ymddangosiadau nodedig yn nifer o gynyrchiadau teledu yn cynnwysThis Life, Holby City, Spooks, Murphy's Law, Waking the Dead a Torchwood. Efallai ei ran fwyaf sylweddol ar y BBC oedd fel Ditectif Arolygydd Russell Bing yn y gyfres ddrama 55 Degrees North lle'r oedd yn chwarae swyddog heddlu gyda barn gref ddi-flewyn-ar-dafod ond doniol ar adegau, mewn cyfres gymhleth wedi ei chrefftio yn gywrain.

Fe chwaraeodd heddwas arall, Ditectif Sarjant Ray Lloyd yn y ddrama heddlu Murder Prevention.[4] Dau o'i rannau enwocaf mewn ffilmiau mawr Hollywood oedd fel Hogg the Whaler yn Master and Commander: The Far Side of the World, a Tecton, milwr yn Troy.[5]

Yn 2001 fe bortreadodd Uther Pendragon, ail wr Igraine yn y gyfres deledu Americanaidd The Mists of Avalon. Ar S4C, roedd yn chwarae rhan Irfon yn Con Passionate, Josi yn Calon Gaeth gan Sian James,[6] Bryan Jones yn Y Pris a John Bell yn Y Gwyll[7]

Yn 2009 roedd yn westai arbennig ar gystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd, darlledwyd ar BBC Two (Cymru yn unig).

Ar 28 Gorffennaf 2009 roedd yn arweinydd gweithdy yn yr Actors' Cut Archifwyd 2009-08-26 yn y Peiriant Wayback yng Nghaerdydd.

Llwyfan

  • Lord Grey and Henry (Earl of Richmond), Richard III, Royal Shakespeare Company, Llundain, 1993
  • Leontes, The Winter's Tale, Globe Theatre, Llundain, 1997
  • Milantius, The Maid's Tragedy, Globe Theatre, 1997
  • Mark Antony, Julius Caesar, Globe Theatre, 1999
  • Taurus, Diomedes, and Sextus Pompeius, Antony and Cleopatra, Globe Theatre, 1999
  • Ymddangosod fel Billy, Cardiff East, fel Willy Nilly, Under Milk Wood, a fel Bonario, Volpone, i gyd yn y National Theatre, Llundain; fel Costard, Love's Labour's Lost, fel Lorenzo, The Merchant of Venice, a fel Ferdinand, The Tempest, i gyd gyda'r Royal Shakespeare Company, Stratford-upon-Avon, England; fel Tristram, Morte d'Arthur, a fel Florizel and Antigonas, The Winter's Tale, y ddau yn y Lyric Theatre, London; fel yr arloeswr, Ingolstadt, Gate Theatre; a fel Danton a'r tad, Snow Palace, Tricycle Theatre, Kilburn, Swydd Efrog, Lloegr
  • Aston, The Caretaker, Theatr y Sherman, Caerdydd, 1990
  • JB Feller yn The Man Who Had All the Luck by Arthur Miller yn y The Donmar Warehouse,[8] Chw 28 - Ebr 5, 2008
  • Sergeant-Major Reg Drummond yn Privates on Parade gan Peter Nichols yn y Noël Coward Theatre,[9] 1 Rhagfyr 2012 - 2 Mawrth 2013

Radio

  • Ymddangosodd mewn darllediadau radio o Cadfael and Cocaine.[10]
  • Samson yn The Listener gan Julian Simpson.[11]

Ffilmyddiaeth

Blwyddyn Ffilm Rhan Nodiadau
2019 The Crown Edward Millward Cyfres 3, pennod 6
2017 Star Wars: The Last Jedi Captain Moden Canady
2016 Byw Celwydd Dylan Williams
2015 Y Gwyll / Hinterland John Bell Cyfres 2, 1 pennod
The Witcher 3: Wild Hunt Letho of Gulet Gem Fideo
Queen of the Desert Frank Lascelles Theatrig - yn ffilmio ar hyn o bryd
Stella Rob Morgan Cyfres 4, 1 pennod
Father Brown Arnold Francis Pennod 3.11 "The Time Machine"
Yr Ymadawiad[12] Stanley Ffilm
2014 Child 44 Tortoise Cyfres deledu - yn Ôl-gynhyrchu
Castlevania: Lords of Shadow Guido/Cleric/Scientist Llais
37 Days David Lloyd George
2013 Atlantis Mac 1 Pennod: "The Earth Bull
Puppeteer General Dog Llais
A Viking Saga: The Darkest Day Aethelwulf
2012 Silk Sgt-Major Pierce 1 Pennod
Casualty Caleb Flack 1 Pennod: "Teenage Dreams"
Titanic David Evans 3 Pennod: 1, 2 & 3
Stella Rob Morgan Rheolaidd, Pennod 1
Sinbad Azdi Pennod: Eye of the Tiger
2011 Star Wars: The Old Republic Lleisiau ychwanegol
Gêm Fideo
Baker Boys Pete Rheolaidd yn y gyfres
Ni no Kuni Kublai Fersiwn Saesneg, llais
Game of Thrones Shagga 2 Bennod: "Baelor" and "The Pointy End"
The Witcher 2: Assassins of Kings Letho of Gulet Gêm fideo
Dragon Age II Ser Emeric/Veld/Lleisiau ychwanegol
Gêm fideo
Being Human Richard 2 Bennod: "The Pack" a "Adam's Family"
Silent Witness D.I. Frank Skipper 2 Bennod: "A Guilty Mind: Part I" a "A Guilty Mind: Part 2"
2010 Pen Talar Max Pennod: "Episode No. 1.6"
The Cursed Mirror[13] Sir Oswalt Ffilm fer
Robin Hood Thomas Longstride Ffilm
Bouquet of Barbed Wire Simon Clark Teledu - ITV
2009 A Child's Christmases in Wales Dad Ffilm deledu
Merlin King Olaf Pennod: "Sweet Dreams"
Crash (UK) Mr. Hill Pennod: "Episode No. 1.6"
Risen Master Pallas Gêm fideo
Framed Daffyd Hughes Ffilm deledu
Law and Order UK Mark Powell Pennod: "Love and Loss"
Top of the Cops as himself - DCI Doug James Teledu
Zig Zag Love Paul Carmichael Ffilm deledu
Welsh Greats[14] Cyflwynydd Pennod: "Emlyn Williams"
2008 The Commander DCI Doug James Pennod: "Abduction"
The Passion Apostle Marcus 3 Pennod: "Episode No. 1.1," "Episode No. 1.2" and "Episode No. 1.3"
The Other Boleyn Girl Brandon Ffilm
Caught in the Act Alan Williams Ffilm
2007 The Commander DCI Doug James 3 Pennod: "Fraudster," "Windows of the Soul" a "The Devil You Know"
Y Pris Prif Gwnstabl Bryan Jones 5 Pennod: "Parti yn y Parc," "Gêm/Dêt," "Parch," "Y Fwled Gynta" and "Y Dechre"
2006 Torchwood John Ellis Pennod: "Out of Time"
Cravings Eisner "Cravings" (Teitl DVD UDA)
Calon Gaeth Josi Evans "Small Country" (Teitl Gŵyl UDA)
Stick or Twist Russ Rheolaidd
Hydra Jones Ffilm fer
Little White Lies Dr. James Rheolaidd
2005 Waking the Dead Tom McQueen Pennod: "Cold Fusion"
55 Degrees North DI Russell Bing 7 Pennod: "Episode No. 2.2," "Episode No. 2.3," "Episode No. 2.4," "Episode No. 2.5," "Episode No. 2.6," "Episode No. 2.7" and "Episode No. 2.8"
Con Passionate Irfon Rheolaidd
2004 Murder Prevention DS Ray Lloyd 3 Pennod: "Judgement Day," "False Prophet" and "Last Man Out"
Lie with Me Paul Stebbing Ffilm deledu
Murphy's Law Simpson Pennod: "Go Ask Alice"
Troy Tecton Ffilm
2003 The Measure of My Days Dihangwr Ffilm fer
Master and Commander: The Far Side of the World Mr. Hogg, Whaler Ffilm
Spooks Mark Whooley Pennod: "I Spy Apocalypse"
Red Cap (TV series) Sgt. Gary Jennings Pennod: "H-Hour"
2002 A Mind to Kill Gethin Purse Pennod: "The Little House in the Forest"
Y Ty Jim Rheolaidd
Holby City Reece King Pennod: "Secrets and Lies"
Lenny Blue DC Huw Morgan Ffilm deledu
2001 The Bench Des Davies Rheolaidd
The Infinite Worlds of H. G. Wells Arthur Brownlow
Tales from Pleasure Beach Dunk
The Mists of Avalon King Uther Pendragon
Score Tony Ffilm deledu
2000 Where the Heart Is Brian Price Pennod: "Getting Better"
Jason and the Argonauts Mopsus Ffilm deledu
1998-1999 Solomon & Gaenor Crad Rees Ffilm
The Knock David Ancrom 6 Pennod: "Episode No. 4.1," "Episode No. 4.2," "Episode No. 4.3," "Episode No. 4.4," "Episode No. 4.5" and "Episode No. 4.6"
1996-1997 This life Dale 6 Pennod: "He's Leaving Home," "Unusual Suspect, "Let's Get It On," "Just Sext," "Brief Encounter" and "Family Outing"
Soldier Soldier Capt Jonathan Bell Pennod: "Delayed Action"
Dangerfield DI Dicky Sutton Pennod: "Trial"
1995 Casualty Alison Pennod: "Trials and Tribulations"
A Mind to Kill Geraint Humphries Pennod: "Son of His Works"
1992 Between the Lines P.C. Terry Gilzean Pennod: "A Watch & Chain of Course"
1991 Heroes II: The Return Royal Marine Maj. Reggie Ingleton
1990 Paper Mask Dr. Lloyd Ffilm
1989 the Shell Seekers Danus Ffilm deledu
Heartland Ieuan Ffilm deledu
The Angry Eart Guto Teledu
1986 Valhalla Llais Odin
1985 Morons from Outer Space Godfrey (fel Mark Jones)

Cyfeiriadau

  1. "Clwyd Theatr Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-18. Cyrchwyd 2015-12-15.
  2. Royal Welsh College of Music & Drama
  3. "Royal Shakespeare Company". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-23. Cyrchwyd 2015-12-15.
  4. "Murder Prevention". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-07. Cyrchwyd 2015-12-15.
  5. Troy
  6. "Green Bay Media Limited". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-01. Cyrchwyd 2015-12-15.
  7. "S4/C-Y Pris". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-13. Cyrchwyd 2015-12-15.
  8. Donmar Warehouse
  9. Noel Coward Theatre
  10. http://www.encyclopedia.com/doc/1G2-3428200106.html
  11. http://www.suttonelms.org.uk/julian-simpson.html
  12. John DeFore (23 Tachwedd 2015). "'The Passing' ('Yr Ymadawiad'): Film Review". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 8 Awst 2024.
  13. The Cursed Mirror (2010)
  14. Welsh Greats Emlyn Williams (2009)

Dolenni allanol

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!