Mariano José de Larra |
---|
|
Ffugenw | Fígaro |
---|
Ganwyd | Mariano José de Larra y Sánchez de Castro 24 Mawrth 1809 Madrid |
---|
Bu farw | 13 Chwefror 1837 o anaf balistig Madrid |
---|
Dinasyddiaeth | Sbaen |
---|
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr, dramodydd, bardd, beirniad llenyddol |
---|
Mudiad | Rhamantiaeth |
---|
llofnod |
---|
|
Newyddiadurwr, dramodydd, a nofelydd Sbaenaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Mariano José de Larra (24 Mawrth 1809 – 13 Chwefror 1837).
Ganed ym Madrid. Bu'n rhaid i'w deulu symud i Ffrainc yn 1814, ar ddiwedd Rhyfel Iberia, oherwydd i'w dad gydweithio â'r Ffrancod yn ystod meddiannaeth Sbaen gan luoedd Napoleon. Dychwelant i Sbaen yn 1818, a phenodwyd tad Larra yn feddyg personol i frawd y Brenin Fernando VII.
Cyhoeddodd Larra y papurau newydd El duende satírico del día (1828) ac El pobrecito hablador (1832–33). Ysgrifennodd feirniadaeth theatr ar gyfer y papur newydd cenedlaethol La revista española, dan y ffugenw Fígaro. Cynhyrchwyd ei ddrama Macías yn 1834. Cyhoeddodd ei unig nofel, El doncel de Don Enrique el doliente, yn 1834.
Bu farw ym Madrid trwy hunanladdiad yn 27 oed.[1]
Cyfeiriadau