Maes awyr 4 cilomedr i’r gorllewin o dref Faro ym Mhortiwgal yw Maes Awyr Rhyngwladol Faro (Portugiwgaleg: Aeroporto Internacional de Faro) neu Maes Awyr yr Algarve. Agorwyd y maes awyr ym mis Gorffennaf 1965.[1] Codau: IATA: FAO, ICAO: LPFR)
Adeiladwyd prif adeilad newydd ym 1989, ac ehangwyd yr adeilad yn 2001. Gwellhawyd yr adeiladau a rhedfeydd rhwng 2009 a 2013.[2]
Mae bysiau cwmni Proximo (rhifau 14 a 16) yn mynd yn rheolaidd o’r maes awyr i orsaf reilffordd Faro a Gorsaf fwysiau Faro ar eu ffordd o Praia de Faro.[3][4]
Mae hyd y rhedfa’n 2,490 medr. Mae’r maes awyr yn prosesu dros 40,000 o ehediadau’n flynyddol, y mwyafrif rhwng Mawrth a Hydref.[3]
Perchennog y maes awyr yw O Estado Nacional de Portugal. Mae awdurdod cenedlaethol meysydd awyr Portiwgal, ANA Aeroportos de Portugal, yn weithredwyr y maes awyr.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol