Maes Awyr Keflavík (Islandeg: Keflavíkurflugvöllur; cod awyrfa: IATA: KEF ICAO: BIKF), a adnabir hefyd fel Maes Awyr Reykjavík–Keflavík, yw'r awyrfa fwyaf yng Ngwlad yr Iâ a phrif ganolfan trafnidiaeth ryngwladol y wlad. Mae'r awyrfa 3.1 km i'r gorllewin o dref Keflavík a 50 km i'r de orllewin o'r brifddinas,Reykjavík. Lleolir hi ger dref Keflavík.
Mae gan y maes awyr dair hedfa (runways); mae dau mewn defnydd. Maint y maes awyr yw oddeutu 25 km sgwâr. Mae'r mwyafrir o'r hediadau sydd i mewn ac allan o Wlad yr Iâ drwy'r awyrfa yma.
Y prif gwmnïau hedfan yno yw Icelandair a WOW air, ill dau yn defnyddio'r maes awyr fel ei prif ganolfan. Defnyddir y maes awyr bron yn unswydd ar gyfer hediadau rhyngwladol. Bydd y rhan fwyaf o hediadau domestig yr ynys yn hedfan o Faes Awyr Reykjavík sydd 3 km o ganol y brifddinas. Ceir hediadau tymhorol o dref Akureyri yng ngogledd yr ynys i Keflavík. Gweinyddir Maes Awyr Keflavík gan Isavia, menter llywodraethol.
Hanes
Adeiladwyd y maes awyr gan yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan ddisodli hedfa (landing strip) bychan Brydeinig oedd i'r gogledd yn Garður. Adeiladwyd dau hedfa a enwyd ar ôl dau beilot bu farw yn y rhyfel, George Meeks a Patterson. Caewyd hedfa Patterson ar ôl y Rhyfel ond cyflwynwyd 'Meeks Field' i reolaeth yr Islandwyr gan ei hail-enwi yn 'Gorsaf Awyr y Llynges, Keflavik' (Naval Air Station Keflavik) ar ôl y dref gyfagos. Ar 5 Mai1951, cyflwynodd llu filwrol yr UDA y maes awyr i Wlad yr Iâ fel rhan o gytundeb amddiffyn rhwng y ddwy wlad.[1]
Roedd presenoldeb lluoedd milwrol NATO ar yr ynys, y sgil Cytundeb Amddiffyn 1951 yn ddadleuol i nifer o drigolion Gwlad yr Iâ gan nad oedd gan y genedl lu arfog cynhenid heblaw am Wylwyr y Glannau y wlad.[2] Yn ystod yr 1960au a 70au cynhaliwyd ralïau i brotestio yn erbyn presenoldeb filwrol yr UD, gyda'r maes awyr yn bwynt ffocws amlwg iawn. Byddai protest flynyddol yn golygu cerdded y 50om ar hyd y ffordd o'r brifddinas, Reykjavík i Keflavík. Byddai'r protestwyr yn llafarganu, "Ísland úr NATO, herinn burt" (llythrennol: Gwlad yr Iâ allan o NATO, i ffwrdd gyda'r militari"). Nid oedd y protestiadau'n llwyddiannus. Ymysg y protestwyr oedd Vigdís Finnbogadóttir, a ddaeth, maes o law, yn Arlywydd cyntaf Gwlad yr Iâ.[3]
Oherwydd natur filwrol y maes awyr, hyd nes 1987, roedd yn rhaid i deithwyr a thwristiaid sifil basio drwy dollau milwrol yn y derfynfa nes i'r derfynfa gyhoeddus gael ei hagor.
Roedd y ddau hedfa 3,000 metr o hyd a 61 metr o led yn ddigon mawr i groesawu 'Space Shuttle' NASA ac ar 29 Mehefin 1999 glaniodd yr awyren Concorde wedi hedfan o Faes Awyr Heathrow yno.
Ail-ddyfodiad Filwrol
Yn 2016 dechreuodd yr Unol Daleithiau drefniadau i ail-sefydlu canolfan yn Keflavík.[4] ac yn 2017 cyhoeddoedd yr UDA ei bwriad i adeiladu canolfan awyr fodern ar y penrhyn[5] er gwaethaf hanes o wrthwynebiad gan nifer o Islandwyr i strategaeth filwrol yr Unol Daleithiau ar yr ynys.
Adnoddau
Enwir terfynfa'r maes awyr ar ôl Leif Erikson, (Flugstöð Leifs Eiríkssonar) un o'r Ewropeaid cyntaf i lanio yng Ngogledd America. Agorwyd hi ym mis Ebrill 1987[6] gan rannu traffig sifil cyhoeddus oddi ar y ganolfan filwrol. Ehangwyd hi yn 2001 wrth agor Adeilad y De, er mwyn ateb gofynion Cytundeb Schengen, ac ehangwyd arni yn 2007. Estynnwyd Adeilad y Gogledd hefyd yn 2007.
Ceir siopau di-doll yn y lolfa gadael ac ymadael. Yn 2016 ehangwyd y terfynfa ymhellach.[7] ac agorwyd 7 gât.[8] Mae llwyddiant y maes awyr a Gwlad yr Iâ fel cyrchfan dwristiaeth yn golygu bod bellach, hefyd, gynlluniau ar gyfer agor trydydd hedfa.[9]