Luisa Valenzuela

Luisa Valenzuela
Ganwyd26 Tachwedd 1938 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Rhaglen Ysgrifennu Rhyngwladol Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, nofelydd, awdur storiau byrion Edit this on Wikidata
Cyflogwr
MamLuisa Mercedes Levinson Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Ysgoloriaethau Fulbright, Prif Anrhydedd y SADE Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.luisavalenzuela.com/ Edit this on Wikidata

Nofelydd, awdur straeon byrion, a newyddiadurwraig yn yr iaith Sbaeneg o'r Ariannin yw Luisa Valenzuela (ganwyd 26 Tachwedd 1938). Hi yw un o'r llenorion cyfoes pwysicaf yn llên yr Ariannin ac yn nodedig am ei ffuglen realaeth hudol. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar themâu gwleidyddol, iaith, a bywyd y fenyw.

Bywyd cynnar

Ganwyd Luisa Valenzuela ar 26 Tachwedd 1938 yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin. Meddyg o'r enw Pablo Francisco Valenzuela oedd ei thad, a llenores oedd ei mam, Luisa Mercedes Levinson. Mynychodd ysgol Brydeinig, ac yn ei hieuenctid bu'n cwrdd â nifer o lenorion amlwg gan gynnwys Jorge Luis Borges, Ernesto Sabato, a Manuel Peyrou. Ystyriodd fynd yn arlunydd neu fathemategydd cyn iddi gychwyn ar yrfa lenyddol. Ymddangosodd ei newyddiaduraeth gynnar mewn cylchgronau yn ystod ei harddegau, a chyhoeddodd ei stori fer gyntaf, "Ese Canto", yn 1956. Gweithiodd am gyfnod yn Llyfrgell Genedlaethol yr Ariannin, dan gyfarwyddyd Borges, ac astudiodd am radd baglor ym Mhrifysgol Buenos Aires.[1]

Priododd lyngeswr masnachol Ffrengig o'r enw Theodore Marjak yn 1958. Symudasant i Normandi, ac yno ganed eu merch, Anna-Lisa. Cawsant ysgariad wedi pum mlynedd o briodas, a symudodd Valenzuela i Baris i weithio i Radio Television Française.[1]

Y 1960au a'r 1970au

Dychwelodd i Buenos Aires yn 1961, a gweithiodd fel golygydd atodlen Sul y papur newydd La Nación o 1964 i 1972. Yn 1966, cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Hay que sonreír, a ysgrifennwyd ganddi yn Ffrainc. Cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion, Los heréticos, yn 1967. Gwobrwywyd Ysgoloriaeth Fulbright iddi yn 1969 ac aeth i Brifysgol Iowa yn Unol Daleithiau America i ymrestru yn y Rhaglen Llenorion Rhyngwladol. Dechreuodd darlithio ar bwnc ysgrifennu yn 1970 a threuliodd ddwy flynedd yn teithio i Sbaen, Ffrainc, a Mecsico â chymhorthdal o Sefydliad Cenedlaethol y Celfyddydau. Yn y cyfnod hwn ysgrifennodd y nofel El gato eficaz (1972), a chyhoeddwyd ei newyddiaduraeth yn y gwledydd a fu'n teithio iddynt.[1]

Dychwelodd i Buenos Aires yn 1974, ac o 1973 i 1979 bu'n addysgu yn achlysurol ym Mhrifysgol Columbia yn Efrog Newydd. Mae ei chasgliad o straeon Aquí pasan cosas raras (1975) a'i nofel Como en la guerra (1977), mae'n arbrofi ag elfennau ieithyddol ei hadroddiant.

Cyfnod alltud

Symudodd Valenzuela i Ddinas Efrog Newydd yn 1979 i fod yn llenor preswyl ym Mhrifysgol Columbia ac i osgoi gormes y jwnta filwrol a fu'n llywodraethu'r Ariannin o 1976 i 1983. Addysgodd yn adran ysgrifennu Columbia o 1980 i 1983. Rhoddwyd Cymrodoriaeth Guggenheim iddi yn 1983, a symudodd i Brifysgol Efrog Newydd, ym mha le cafodd ei phenodi'n athrawes wadd o 1985 i 1990.[1]

Ymunodd Valenzuela ag Amnest Rhyngwladol a phwyllgor Rhyddid Ysgrifennu PEN. Dychwelodd i'r Ariannin yn 1989, yn sgil ailddemocrateiddio'r wlad.

Gyrfa ddiweddarach

Ers iddi ddychwelyd i'w mamwlad, mae Valenzuela wedi cyhoeddi nifer rhagor o gyfrolau ffuglen, gan gynnwys y nofelau Novela negra con argentinos (1990), La travesía (2001), a Cuidado con el tigre (2011) a'r casgliad o straeon byrion Simetrías (1993).

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) "Valenzuela, Luisa" yn Contextual Encyclopedia of World Literature (Gale, 2009). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 10 Mehefin 2019.

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!