Carfan bwyso annibynnol byd-eang yw Amnest Rhyngwladol (a elwir yn gyffredin yn Amnest) sydd yn ymgyrchu dros ryddhad pob carcharor cydwybod (sef pobl a garcharir neu gam-drinir oherwydd eu credoau gwleidyddol neu grefyddol: gweler hefyd carcharor gwleidyddol). Sefydlodd y cyfreithiwrPrydeinigPeter Benenson y mudiad yn 1961, gyda'i bencadlys yn Llundain. Seilir Amnest Rhyngwladol ar rwydwaith o grwpiau lleol gwirfoddol ac aelodau unigol ar draws y byd, sydd yn mabwysiadu carcharorion cydwybod ac yn dilyn'u hachosion gyda'r llywodraethau perthnasol neu drwy gyrff rhyngwladol. Mae dulliau'r mudiad o ymchwilio ac ymgyrchu yn cynnwys monitro, cyhoeddusrwyd trwy'r cyfryngau torfol, a gohebiaeth gydag unigolion.
Mae gan Amnest Rhyngwladol tua 1 miliwn o aelodau byd-eang, gyda 5,300 o grwpiau gwirfoddol ac adrannau a drefnir yn ôl gwlad mewn 56 o wledydd, a chefnogwyr mewn 162 o wledydd. Caiff ei gyllido gan roddion gwirfoddol. Derbynnodd Gwobr Heddwch Nobel yn 1977 am "ei ymdrechion ar ran amddiffyn urddas dynol yn erbyn trais a darostyngiad".