Bwrdeistref yng ngogledd Bizkaia yng Ngwlad y Basg yw Leioa, ar ochr dde aber afon Ibaizabal. Wedi'i sefydlu ym 1526, mae Leioa bellach yn gartref i reithoriaet
| Math | bwrdeistref Sbaen |
|---|---|
| Poblogaeth | 32,748 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Mari Carmen Urbieta Gonzalez |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Basgeg |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 8.36 ±0.01 km² |
| Uwch y môr | 30 ±1 metr |
| Yn ffinio gyda | Getxo, Erandio, Sestao, Portugalete |
| Cyfesurynnau | 43.3289°N 2.9847°W |
| Cod post | 48940 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Lejona |
| Pennaeth y Llywodraeth | Mari Carmen Urbieta Gonzalez |
![]() | |
Bwrdeistref yng ngogledd Bizkaia yng Ngwlad y Basg yw Leioa, ar ochr dde aber afon Ibaizabal. Wedi'i sefydlu ym 1526, mae Leioa bellach yn gartref i reithoriaeth Prifysgol Gwlad y Basg a phencadlys campws Bizkaia. Mae ganddi 8.6 km2 o arwynebedd, ac yn 2016 roedd 30.793 o drigolion.
Ym 1979, gosododd cyngor y ddinas yr enw Basgeg Leioa fel unig enw swyddogol y fwrdeistref - tan hynny "Lejona" oedd yr enw - fel y gwnaeth llawer o fwrdeistrefi eraill yng nghymuned ymreolaethol Gwlad y Basg.
Ffurf wreiddiol lawn yr enw fuasai *Leiona ac oddi yno daw'r enw Sbaeneg Lejona, a ysgrifennwyd yn wreiddiol fel Lexona, Leioa yn y Fasgeg, fel gyda Lujua a Loiu, enw tref arall.
Yn yr un modd, yn hanes diacronig a seineg hanesyddol y Fasgeg, fod colli’r n rhwng llafariaid yn duedd naturiol ac fe’i canfyddwn mewn amryw eiriau benthyg Lladin ac mewn enwau lleoedd: katea (o catena ), bolua (o molinum); Buia (Bujana), Galdakao (Galdácano), Lemoa (Lemona), Lemoiz (Lemóniz) a Sopela (Sopelana).
Mae'r dref yn gymharol wastad, dim ond ychydig o fryniau sy'n cyrraedd 100 metr. Kurkudi (126 m), Bolunburu ac Ikea (mynydd) yw'r lleoedd uchaf yn y fwrdeistref [1].
Mae'n ffinio ag Erandio i'r gorllewin, Getxo i'r dwyrain, ac afon Ibaizabal i'r de. Yr ochr arall i afon Ibaizabal, mae'n ffinio â Sestao. Mae Portugalete gyferbyn â Getxo yr ochr arall i afon Ibaizabal.
Er nad yw ond ychydig o fetrau i ffwrdd, nid yw Leioa'n rhannu ffin â Berango[2].
Y prif sector economi'r dref yw gwasanaethau. Mae hefyd sawl math o ddiwydiant sydd wedi'u datblygu dros y blynyddoedd: dur, cemeg, mecaneg, gwydr a'r diwydiant bwyd.

Mae Leioa, rhwng ardaloedd poblog Getxo a Bilbao, wedi dod yn dramwyfa i filoedd o geir bob dydd. Mae'r prif lwybrau'n gyfochrog ag afon Ibaizabal, yn bennaf oll ffordd BI-637, sef rhodfa La Avanzada / Iparragirre. Mae llawer o geir yn mynd heibio'r ffordd sy'n rhedeg o Gampws Leioa-Erandio EHU a heibio Ibaizabal bob dydd, ond BI-637 yw'r ffordd brysuraf yng Ngwlad y Basg ers amser maith. Llwybr arall yw'r un sy'n mynd o'r orsaf metro i Gampws Leioa-Erandio Prifysgol Gwlad y Basg.
Ar un adeg roedd cynllun i osod gwasanaeth tramffordd yn Leioa, ac adeiladwyd neuaddau i storio'r trenau, ond yn y diwedd, sefydlwyd gwasanaeth fysiau o'r enw Lejoan, yn ychwanegol at wasanaeth Bizkaibus.
Mae lein cyntaf metro Bilbao yn mynd trwy Leioa, gyda'r gorsafoedd canlynol yn y fwrdeistref:
Mae 18 o wasanaethau dinesig Bizkaibus yn croesi'r fwrdeistref.

Mae tafodiaith Leioa ( "Leyoáko berbeté") yn amrywiad ar y is-dafodiaith Basgeg Gogledd Bizkaia. Mae'n pontio rhwng amrywiaethau Uribe Kosta a Txorierri, ac yn debyg i rai Getxo a Berango.[3]

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.