Rhediad 2300 km (1400 milltir) ydy'r Korrika (Rhedeg) a gynhelir pob ail flwyddyn ers 1980 er mwyn hyrwyddo'r iaith Fasgeg.
| Enghraifft o: | digwyddiad sy'n ailadrodd |
|---|---|
| Math | gŵyl ddiwylliannol, relay race |
| Gwlad | |
| Dechrau/Sefydlu | 1980 |
| Yn cynnwys | Korrika 1980 |
| Gwladwriaeth | Sbaen |
| Gwefan | http://www.korrika.eus/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02q251b |




Rhediad 2300 km (1400 milltir) ydy'r Korrika (Rhedeg) a gynhelir pob ail flwyddyn ers 1980 er mwyn hyrwyddo'r iaith Fasgeg.
Mae miloedd o bobl yn cymryd rhan, gan redeg yn eu tro rhannau'r marathon trwy'r dydd a thrwy'r nos am 11 diwrnod dros Euskal Herria (Gwlad y Basg). Trefnir y rhediad gan fudiad AEK i godi arian ar gyfer eu canolfannau dysgu Basgeg ac ymgyrchoedd llythrennedd i oedolion.
Mae rhedwr ar flaen y Korrika yn dal yn uchel 'y tyst' sef pastwn pren, yn debyg i'r modd mae rhedwr Olympaidd yn dal y fflam. Mae pastwn 'y tyst' yn cael ei basio ymlaen i redwr nesaf pob cilomedr.
Wrth i'r Korrika cael ei rhedeg dydd a nos mae'n meddwl bod pastwn 'y tyst' yn mynd o law i law yn ddi-stop am 11 diwrnod.[1][2]
Mae arian yn cael ei godi trwy 'brynu' neu noddi cilomedrau'r rhedwyr.
Y tu mewn y pastwn mae neges gudd wedi'i ysgrifennu. Tynnir y neges a'i darllen ar ddiwedd y 2300 km fel uchafbwynt y seremoni derfynol.
Tu ôl i'r rhedwr yn dal y pastwn mae trof mawr o redwyr eraill gyda baner slogan Korrika y flwyddyn honno.
Mae rhai sloganau y gorffennnol wedi cynnwys:
Wrth gyrraedd trefi a phentrefi croesawir y rhedwyr gan dorfeydd yn chwifio baneri a digwyddiadau cerddoriaeth a dawnsio.
Trefnwyr y Korrika yw Alfabetatze Euskalduntze Koordinakundea - AEK (Llythrennedd a Chydweithrediad dros Fasgeg). Mudiad a sefydlwyd ym 1976 i hyrwyddo Euskara – yr iaith Fasgeg trwy ei dysgu fel ail iaith i oedolion.
Mae AEK hefyd yn rhoi cryn bwyslais ar lythrennedd ac yn annog a chynorthwyo oedolion sydd yn siaradwyr Euskara yn barod i fod yn hyderus gyda ysgrifennu a darllen yr iaith.
Mae AEK wedi datblygu rhwydwaith eang o dros 100 Euskaltegi (canolfannau dysgu'r iaith Fasgeg) sydd yn cyflogi dros 600 o athrawon. Mae'r Euskaltegi bellach wedi'u lleoli ym mhob rhan o Euskal Herria (Gwlad y Basg), yn cynnwys yr ardaloedd yn Ffrainc a Nafarroa (Sbaeneg: Navarra).
Dechreuwyd AEK ar ddiwedd cyfnod pan orfodid y Sbaeneg yn unig iaith y wlad gan lywodraeth Madrid.
Ers y 1970au sefydlwyd senedd hunanlywodraethol yn debyg i Senedd Cymru mewn tair o saith talaith Gwlad y Basg. Yn yr ardaloedd yma mae'r llywodraeth Basgeg yn noddi'n hael gweithgaredd AEK. Ond yn y tair talaith yn Ffrainc a hefyd Nafarroa (Sbaeneg: Navarra, talaith nid yw lywodraeth Sbaen yn cydnabod fel rhan o weddill Gwlad y Basg) mae statws a defnydd swyddogol o'r iaith dal yn gyfyngedig iawn.
Mae llywodraeth leol Nafarroa wedi bod yn wrthwynebus i'r Korrika'n croesi eu tiriogaeth a bu tensiwn rhwng y rhedwyr a'r Guarda Civil (heddlu milwrol Sbaen).[4][5]
Mae llwyddiant y Korrika wedi ysbrydoli rhediadau dros ieithoedd eraill.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.