Roedd Elizabeth "Lee" Miller, Lady Penrose (23 Ebrill 1907 – 21 Gorffennaf 1977) yn fodel ffasiwn lwyddiannus yn Efrog Newydd yn y 1920au cyn symud i Baris bl
| Lee Miller | |
|---|---|
| Ganwyd | 23 Ebrill 1907 Poughkeepsie |
| Bu farw | 21 Gorffennaf 1977 o canser Chiddingly |
| Man preswyl | Cairo, Chiddingly, Llundain |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gohebydd rhyfel, ffotografydd rhyfel, ffotonewyddiadurwr, model, newyddiadurwr, celfyddydwr, ffotograffydd ffasiwn, ffotograffydd, actor |
| Mudiad | Swrealaeth |
| Priod | Roland Penrose, Aziz Eloui Bey |
| Partner | Man Ray |
| Plant | Antony Penrose |
| Gwefan | http://www.leemiller.co.uk/ |
| llofnod | |
Roedd Elizabeth "Lee" Miller, Lady Penrose (23 Ebrill 1907 – 21 Gorffennaf 1977) yn fodel ffasiwn lwyddiannus yn Efrog Newydd yn y 1920au cyn symud i Baris ble bu'n rhan o'r grŵp celfyddydol y Swrrealyddion
Aeth ymlaen i fod yn ffotograffydd a newyddiadurwraig adnabyddus yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn cofnodi bomio Llundain, rhyddhau Paris a gwersylloedd carchar Buchenwald a Dachau.
Ganwyd Lee Miller ym Poughkeepsie ger Efrog Newydd. Daeth hi'n arfer ag edrychiad a chwant dynion yn ifanc iawn. Roedd ei thad yn ffotograffiaeth amaturiaid a'i pherswadiodd i fodelu yn noeth. Pan roedd hi'n 8 mlwydd oed fe'i threisiwyd wrth aros gyda ffrind y teulu yn cael ei heintio gyda hadlif (gonorrhea). Cyn dyfeisio penisilin bu'r driniaeth am yr haint yn hynod o annifyr yn arbennig i ferch mor ifanc a oedd wedi dioddef ymosodiad mor ffiaidd.[1]
Yn 19 oed, bu bron iddi gael ei tharo gan gar wrth groesi'r stryd yng nghanol Efrog Newydd, yn ffodus fe'i thynnwyd yn ôl mewn pryd gan ddyn a oedd digwydd cerdded yn agos. Y dyn oedd Condé Nast cyhoeddwr cylchgrawn ffasiwn Vogue, yn sylwi ar ei harddwch, fe'i gwahoddwyd i fodela i Vogue.[2][3]
Ymddangos ar y clawr ym Mawrth 1927 ac fe ddaeth yn un o'r modelau mwyaf llwyddiannus y cyfnod.[4]
Daeth ei gyrfa i ben yn dilyn sgandal pan ddefnyddiwyd llun ohoni i hysbysebu padiau mislif merched.[5]
Ym 1929, teithiodd Miller i Baris gyda'r bwriad o fod yn brentis i'r arlunydd a ffotograffydd swrrealaidd Man Ray. Er i Man Ray mynnu ar y dechrau nad oedd yn hyfforddi myfyrwyr, fe ddaeth Miller yn fodel, gydweithiwr a chariad iddo.[1]
Tra ym Mharis, fe ddechreuodd ei stiwdio ffotograffig ei hun, yn aml yn cymryd drosodd prosiectau Man Ray er mwyn iddo fo ganolbwyntio ar beintio. Mae llawer o'r ffotograffau a brodolwyd i Man Ray wedi'u tynnu gan Lee Miller. Gyda Man Ray datblygydd y dechneg ystafell dywyll o heulo (solarisation) printiau. Ymhlith ei gylch o ffrindiau oedd Pablo Picasso, Paul Éluard, a Jean Cocteau, ymddangosodd mewn ffilm Cocteau Le Sang d'un Poète (Gwaed y bardd) ym 1930.[6]
Gadwodd Man Ray ym 1932, yn dychwelyd i Efrog Newydd i sefydlu stiwdio ffotograffiaeth lwyddiannus gyda'i brawd Erik yn cynorthwyo yn yr ystafell dwyll.
Ym 1934, rhoddodd y gorau i'w stiwdio i briodi dyn busnes o'r Aifft Aziz Eloui Bey a oedd wedi dod i Efrog Newydd i brynu offer ar gyfer rheilffyrdd ei wlad. Symudodd i fyw yn Yr Aifft gyda'i gŵr, er i Miller beidio â gweithio fel ffotograffydd yn ystod y cofnod yma, tynnodd nifer o luniau yn cynnwys Portrait of Space, (1937) a dynnwyd o babell yn yr anilawch a ystyrir ymhlith ei delweddau swrrealaidd mwyaf nodweddiadol. Erbyn 1937 roedd Miller wedi syrffedu ar fywyd yn yr Aifft a dychwelodd i Baris ble cyfarfu â'r peintiwr swrrealaidd o Sais Roland Penrose a briododd yn ddiweddarach.
Ar ddechrau'r rhyfel, roedd Miller yn byw yn Llundain gyda Penrose pan ddechreuodd bomio'r ddinas. Anwybyddodd alwadau ei ffrindiau a theulu i ddychwelyd i'r Unol Daleithiau a dechreuodd gyrfa newydd fel newyddiadurwraig ffotograffig ar gyfer Vogue. Fe'i chydnabuwyd gan fyddin yr Unol Daleithiau fel ffotograffydd swyddogol a chydweithiodd gyda'r ffotograffydd David E. Scherman o gylchgrawn Life.
Teithiodd i Ffrainc yn llai na mis ar ôl D-Day a chofnodydd y defnydd cyntaf o napalm yn ystod brwydr Sant-Maloù, rhyddhau Paris, brwydr Alsace a gwersylloedd carchar Buchenwald a Dachau. Mae llun o Miller a dynnwyd gan Scherman ohoni'n gorwedd mewn bath Adolf Hitler yn un o'r delweddau eiconig y bartneriaeth Miller-Scherman.[7]
Hefyd yn ystod cyfnod y rhyel tynnodd Miller luniau o blant yn marw mewn ysbyty yn Fienna, bywyd cefn gwlad Hwngari a dienyddio László Bárdossy, cyn brif weinidog Hwngari gan sgwad saethu. Ar ôl y rhyfel gweithiodd i Vogue am ddwy flynedd arall ar ffasiwn a sêr y byd adloniant.

Ar ôl dychwelyd i Loegr o'r rhyfel, dechreuodd Miller ddioddef o iselder – yr hyn yr elwir heddiw yn post-traumatic stress syndrome. Dechreuodd yfed yn drwm ac roedd yn ansicr am y dyfodol.
Ym 1946, teithiodd gyda Roland i'r Unol Daleithiau, ble ymwelodd â Man Ray. Pan ddarganfuddodd roedd hi'n beichiog gyda ei unig plentyn, Anthony, ysgarodd â Eloui Bey ac phroidodd Penrose ym 1947. Symudodd y cwpl i fyw yn Nwyrain Sussex ac yn y blynyddoedd canlynol fe ddaeth y tŷ yn atyniad i arlunwyr enwog gyda Picasso, Man Ray, Henry Moore, Eileen Agar, Jean Dubuffet a Max Ernst ymhlith yr ymwelwyr.
Roedd cof ei phrofiadau yn ystod y rhyfel, yn arbennig erchyllterau Buchenwald a Dachau yn ei phonei am weddill ei hoes.[8]
Bu farw Miller o ganser yn Tŷ Fferm Farley, Chiddingly, Dwyrain Sussex, ym 1977, yn 70 oed.
Doedd Anthony Penrose ddim yn gwybod am hanes ei fam a'i phrofiadau rhyfel nes iddo ddarganfod ei ffotograffau a llythrennau mewn bocsys yn atig Fferm Fairley ar ôl ei marwolaeth hi. Yn 1985 ysgrifennodd The Lives of Lee Miller - bywgraffiad o'i fam a chydweithiodd gyda nifer o raglenni dogfen ac arddangosfeydd o'i waith sydd wedi dod a hanes Lee Miller a'i ffotograffiaeth i sylw'r byd. Mae hi bellach yn cael ei gweld fel un o fawrion yn hanes ffotograffiaeth ac yn eicon ffeministaidd
Yn 2023 ymddangosodd y ffilm Hollywood Lee am fywyd Lee Miller gyda Kate Winslet yn y brif ran. Mae'r ffilm yn canolbwyntio ar ail ran o'i bywyd a gwaith fel ffotograffydd rhyfel ac wedi'i seilio'n bennaf ar lyfr Anthony.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.