- Erthygl am y département yw hon. Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Landes.
Un o départements Ffrainc, yn rhanbarth Aquitaine yn ne-orllewin y wlad, yw Landes. Ei phrifddinas yw Mont-de-Marsan. Gorwedd ar lan Bae Biscay. Mae'n ffinio â départements Gironde, Lot-et-Garonne, Gers, a'r Pyrénées-Atlantiques. Daw'r enw o'r gair Ffrangeg landes ("rhos; rhosdir grugog"). Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o dalaith hanesyddol Gasgwyn.
Mae'r prif drefi yn cynnwys: