Un o départements Ffrainc, yn rhanbarth Provence-Alpes-Côte d'Azur yn ne-ddwyrain y wlad, yw Bouches-du-Rhône. Prifddinas y département yw dinas Marseille, un o borthladdoedd mwyaf Ffrainc. Rhydd y delta a ffurfir gan aberoedd Afon Rhône ei enw i'r département. Gorwedd ar arfordir y Môr Canoldir lle ceir ardal enwog y Camargue.
Mae'r prif drefi yn cynnwys: