Castell anferth a godwyd gan y Croesgadwyr yw Krak des Chevaliers ("Castell y Marchogion"; cyfuniad o'r gair Arabegkrak / kerak "caer, castell" a'r Ffrangegchevaliers). Saif ar fryn 630m o uchder ger dinas Homs yng nghanolbarth Syria, i'r gogledd o'r briffordd rhwng y ddinas honno a Beirut yn Libanus.
Hanes
Codwyd y castell gan groesgadwyr o Ffrainc. Mae'r Krak yn un o'r enghreifftiau gorau o grefft y penseiri cestyll. Bu farw'r croniclydd canoloesol enwog Geoffrey de Joinville yno.
Aethai'r Ysbytywyr ati i ailadeiladu'r castell yn sylweddol gan ei droi yn amddiffynfa arbennig, castell mwyaf y Croesgadwyr yn y Dwyrain Canol. Ychwanegasant fur allanol â thrwch o 3 meter gyda saith o dyrrau gwarchod anferth â muriau 8-10 meter o drwch, gan greu felly castell consentrig clasurol. Defnyddiai Meistr Mawr yr Ysbytywyr un o'r tyrau hynny fel ei bencadlys. Yn y 12g ychwanegwyd clawdd anferth llawn o ddŵr a groesid gan bont godi yn arwain i byrth y postern.
Bu bron i'r castell syrthio i Saladin yn 1188 ar ôl bod ym meddiant y Croesgadwyr am brin 70 mlynedd. Daliwyd y castellan, ceidwad y castell, ac fe'i gorfodwyd i orchymyn i'r amddiffynwyr agor y porth ac ildio. Dywedodd hynny yn Arabeg ond yna ychwanegodd yn Ffrangeg orchymyn iddyn nhw ddal y castell i'r dyn olaf.
Yn ystod y pumed Croesgad ymwelodd Andrew II o Hwngari â'r castell ac atgyfnerthodd y muriau allanol yn 1217. Fe'i cipiwyd gan Baibars ar Ebrill 8, 1271, trwy ystryw gan ddweud fod ComteTripoli wedi gorchymyn i'r amddiffynwyr ildio. Atggyfnethodd Baibars y castell a'i defnyddio fel canolfan ar gyfer ymosod ar Dripoli. Troes gapel y marchogion yn fosg. Tyfodd dref garsiwn sylweddol yn y castell. Cafodd ei ddefnyddio gan y Mameluks yn ddiweddarach i ymosod ar Acre yn 1291.