Dinas yng nghanolbarth Syria yn agos i'r ffin â Libanus yw Homs (neu Hims). Saif ar lan Afon Orontes rhwng y brifddinas Damascus i'r de a dinas Aleppo i'r gogledd. Y ddinas agosaf iddi yw Hama. Mae'n ddinas hynafol gyda nifer o adeiladau hanesyddol ynddi. Mae Homs yn ganolfan fasnach a diwydiant pwysig yn economi'r wlad.
Hanes
Emesa oedd enw'r ddinas yn y cyfnod Clasurol. Emesa oedd dinas enedigol y nofelydd Groeg Heliodorus (fl. 3g), awdur yr Aethiopica. Brodores o Emesa oedd gwraig yr ymerodr Rhufeinig Septimius Severus. Ganwyd yr ymerodr Rhufeinig Heliogabalus yn Emesa tua 204; bu'n ymerodr Rhufain o 218 hyd ei farwolaeth yn 222.
Cododd y Croesgadwyr gastell strategol anferth Krak des Chevaliers ar fryn ar gyrion y ddinas.