Casgliad o straeon byrion yn Gymraeg gan Mihangel Morgan yw Kate Roberts a'r Ystlum a Dirgelion Eraill. Y Lolfa a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2012. Yn 2019 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Yn ôl y broliant Gwales.com:[1]
Sut fyddai Caradog Prichard yn ymdopi â cholli ei gof ar ôl ymddeol? Beth ddigwyddodd i Evan Roberts ar ôl i fwrlwm y Diwygiad ddod i ben? Beth allai fod wedi ysbrydoli Kate Roberts i feddwl am yr iaith Gymraeg fel ystlum mewn cerdd i'r Faner? Dyma rai o'r cwestiynau y mae dychymyg gogleisiol Mihangel Morgan yn ceisio'u hateb yn y casgliad hwn o straeon dyfeisgar.
Mae 25 stori yn y casgliad: