Roedd Jonathan Owain Reynolds (Nathan Dyfed) (28 Ebrill 1814 – 17 Gorffennaf 1891) yn saer troliau, yn fardd ac yn eisteddfodwr.[1]
Cefndir
Ganwyd Nathan Dyfed yn Nhyddyn Rhyd Wen, ym mhlwyf Llanwinio, Sir Gaerfyrddin, yn fab i Dafydd a Mary Reynolds. Cafodd ychydig fisoedd o addysg mewn ysgolion lleol a gynhaliwyd gan bobl heb fawr o fanteision addysg eu hunain.[2]
Gyrfa
Dysgodd crefft y saer troliau gan ei dad, a dyna fu ei waith hyd ddiwedd ei oes. Ym 1833 symudodd i Ferthyr Tudful i weithio ei grefft.
Gyrfa Lenyddol
Mae sôn ei fod yn fardd o'i ieuenctid yn cyfansoddi cerddi ac emynau syml pan nad oedd dim mwy nag wyth mlwydd oed. Enillodd ei wobr eisteddfodol gyntaf yn Eisteddfod Llanboidy ym 1834, cafodd llwyddiannau eisteddfodol niferus wedi hynny. Fe'i hurddwyd yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain gan Taliesin ab Iolo ac fe'i hurddwyd yn "Bencerdd y De" gan Gwilym Cowlyd yn Arwest Glan Geirionydd.[3] Roedd yn ffigwr amlwg yn eisteddfodau a chyfarfodydd llenyddol ei oes fel cystadleuydd ac fel beirniad. Bu hefyd yn un o arholwyr ymgeiswyr am urddau'r orsedd.[4]
Bu'n olygydd colofn Gymraeg y Merthyr Express am sawl flwyddyn a fu'n cyfrannydd cyson i'r wasg Cymraeg. Cyfieithodd MacBeth[5] a King Lear Shakespeare i'r Gymraeg [6] a fu'n darllenydd proflenni a golygydd gweithiau Taliesin ab Iolo a Gwallter Mechain ar gyfer y wasg.
Teulu
Priododd Martha Reynolds née Reynolds (dim perthynas) ym 1842, a bu iddynt naw o blant. Un o'u meibion oedd Llywarch Owain Reynolds.[1]
Marwolaeth
Bu farw yn ei gartref ym Mill Street, Merthyr yn 77 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Cefn coed y cymer.[7]
Cyfeiriadau