Llenor o Gymru ac arbenigwr ar lên gwerin Cymru oedd Jonathan Ceredig Davies (22 Mai 1859 – 29 Mawrth 1932). Cyhoeddai fel J. Ceredig Davies.[1]
Brodor o blwyf Llangynllo, Ceredigion, oedd Davies. Teithiodd yn eang a chyhoeddodd sawl llyfr taith yn cynnwys dwu gyfrol am y Wladfa, Patagonia. Ond fe'i cofir yn bennaf am ei gyfraniad i astudiaethau llên gwerin gyda'r gyfrol Folk-lore of West and Mid-Wales (1911).[1]