Jonathan Catherall

Jonathan Catherall
Ganwyd1761 Edit this on Wikidata
Bu farw31 Gorffennaf 1833 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdiwydiannwr, dyngarwr Edit this on Wikidata

Roedd Jonathan Catherall (176131 Gorffennaf 1833) yn ddiwydiannwr a dyngarwr o Gymru, ac yn un o wyrion llwyddiannus Jonathan Catherall yr hynaf (1689-1761), dyn a gymerodd ran bwysig yn natblygiad y diwydiant clai yn ardaloedd Bwcle a'r Wyddgrug yn Sir y Fflint yn ystod y 18g. Roedd William Catherall hefyd yn un o'r wyrion llwyddiannus eraill.

Jonathan oedd yr ieuengaf o dri mab i John a Martha Catherall o'r Bwcle, Sir Fflint, ac wedi marw ei dad ar 7 Rhagfyr 1777, tra'n astudio'r gyfraith yn Llundain, dychwelodd Jonathan i dŷ ei fam i'w chynorthwyo gyda'r gwaith llestri pridd a sefydlwydd gan y teulu ers y 17g. Yna, wedi marw ei fam yn 1792, bu'n bennaf gyfrifol am reolaeth a chynnydd helaeth y busnes.

Crefydd

Yn ystod 1792 hefyd y priododd Catherine Jones, merch i ficer Llannor a Deneio yn Sir Gaernarfon. Elent yn ól eu harfer i eglwys Penarlag hyd at 1785, pan benderfynodd Jonathan ymaelodi gyda'r Annibynwyr, ac oherwydd y galw am grefydd diwygiedig yn y cyfnod hwn, bu llwyddiant ar waith yr enwadau newydd. Cymerodd Jonathan ran amlwg gyda sefydlu achosion yr Annibynwyr yn Bagillt, Treffynnon a Bwcle. Sicrhaodd drwydded i gynnal cyrddau crefyddol yn ei dy, Hawkesbury House, a adeiladodd yn 1801, ac er iddo brofi sawl profedigaeth, prynodd ddarn o dir yn 1811 ac adeiladu capel arno ar ei draul ei hun. Gwasanaethodd hefyd fel casglwr ar ran Cymdeithas y Beibl Frutanaidd a Thramor yn Sir y Fflint.

Colledion

Gan i'w wraig farw yn 1807, ac i bump o'r wyth plentyn a anwyd iddynt farw'n ifanc, gan gynnwys dwy ferch yn eu dauddegau o'r dwymyn yn 1818, dim ond ei fab William gafodd oroesi gogyfer á pharhau'r gwaith. Yn 1819, daeth yntau yn bartner i'w dad yn y busnes, a llwyddodd y cwmni hyd at ddiwedd y 19g.

Bu farw Jonathan ar 31 Gorffennaf 1833 a chladdwyd ef ym mynwent capel yr Annibynwyr, Bwcle.

Ffynnonellau

  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, iv, t. 219, 237, 241-2;
  • Thomas Cropper, Buckley and District. Historical, biographical, reminiscent (1923), t. 59-96, llun.

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!