John Parry (24 Gorffennaf 1835 - 3 Mehefin 1897) oedd arweinydd Rhyfel y Degwm o 1886 ymlaen. Roedd yn aelod o gyngor sir cyntaf Sir Ddinbych. Dywedir ei fod yn areithiwr huawdl ac arweinydd doeth, ac anerchodd lawer o gyfarfodydd yng Nghymru a Lloegr ar y degwm. Bu farw 3 Mehefin 1897.[1]
Ganed John Parry ar 24 Gorffennaf yn Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych, yn fab i'r Parch. Hugh Parry. Roedd yn saer coed, bugail, goruchwyliwr stad, llenor, a bardd, a chanddo lyfrgell gyfoethog ac amrywiol iawn a gedwir heddiw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ysgrifennodd atodiad i Hanes y Merthyron (Thomas Jones, Dinbych), ysgrif ar Helynt y Degwm (Y Traethodydd, 1887), ayb.