Bardd a llenor o Loegr oedd Syr John Denham (1615 - 10 Mawrth 1669). Wrth gyfieithu yr Enid gan Fyrsil o'r Lladin i Saesneg, defnyddiodd ddulliau o gyfieithu rhydd. Roedd Denham yn frenhinwr tanbaid a defnyddiodd y cyfieithiad hwn i hyrwyddo'i agenda gwleidyddol.
Ailysgrifenodd Denham lawer o waith gwreiddiol Fyrsil a'i addasu at ei ddefnydd ei hun, er enghraifft, yn Llyfr II, newidiodd Denham yr enw Priam gan ddefnyddio "the King" yn unig fel y gallai ei gynulleidfa Seisnig uniaethu â'r sefyllfa. Gellir gweld tebygrwydd rhwng dienyddiad Priam a Siarl I. Gwaneth hefyd adael cymeriadau ac enwau llefydd allan a fyddai'n gosod y stori'n amlwg y tu allan i Loegr. Cafwyd fersiwn arall o'r un testun ym 1656, yn fersiwn fwy rhugl.
Cyfeiriadau