Dinas yng nghanolbarth Iran yw Isfahan neu Esfahan (Perseg: اصفهان). Gyda phoblogaeth o 2.54 miliwn, hi yw'r drydydd ddinas fwyaf yn Iran, ac mae'n brifddinas rhanbarth Isfahan. Saif tua 340 km i'r de o Tehran ar lan ogleddol afon Zayandeh Rud.
Mae Isfahan yn hen ddinas, a adwaenid fel Aspadana yn y cyfnod clasurol. Roedd yn brifddinas rhanbarth Persia Uchaf o ymerodraeth Parthia. Alltudiwyd Iddewon yno yn ystod y goncwest Fabilonaidd. Daeth y ddinas yn bwysig fel un o'r dinasoedd ar Ffordd y Sidan, y rhwydwaith o lwybrau masnach rhwng Tsieina a'r Môr Canoldir.
Cipiwyd y ddinas gan yr Arabiaid yn 643.
Gwnaeth Malik Sjah I hi yn brifddinas yn 1051, ac yn ystod y cyfnod yma bu'r meddyg ac athronydd Avicenna yn byw yma. Cipiwyd y ddinas gan Timur yn 1387, a lladdwyd tua 70,000 o'r trigolion wedi iddynt wrthryfela yn ei erbyn. Daeth yn brifddinas Persia eto yn 1598, ac yn y cyfnod nesaf dan Abbas I adeiladwyd llawer o adeiladau enwocaf y ddinas, megis y Meidan Emam. Cipiwyd y ddinas gan yr Afghaniaid yn 1722, a dinistriwyd rhan helaeth ohoni.