ImpresarioEnghraifft o'r canlynol | galwedigaeth ym myd adloniant |
---|
Math | cyfarwyddwr artistig (cerddoriaeth), rheolwr theatr, gweithredwr mewn busnes, cynhyrchydd |
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Person sy'n trefnu ac yn ariannu operâu, cyngherddau neu ddramâu yw impresario. Daw'r gair o'r Eidaleg, "rhywun sy'n ymgymryd â menter".[1]
Mae'r enw yn deillio o fyd opera yn yr Eidal y 18g. Wrth i opera ddod yn fwyfwy poblogaidd yn y wlad honno, byddai perchnogion theatrau, fel arfer amaturiaid o blith yr uchelwyr, yn penodi unigolyn, sef yr impresario, i wneud yr holl drefniadau ymarferol ar gyfer tymor. Byddai’r impresario'n llogi cyfansoddwr (tan y 1850au roedd disgwyl i bob opera fod yn rhai newydd) yn ogystal â chantorion, cerddorfa, gwisgoedd a setiau. Byddai'n cymryd risg ariannol sylweddol. Darlunnir straen ac anhrefn y broses hon yn opera gomig Der Schauspieldirektor ("Yr Impresario", K486, 1786) gan Mozart.
Defnyddir yr enw o hyd yn y diwydiant adloniant i gyfeirio at berson sy'n trefnu digwyddiadau.
Roedd Antonio Vivaldi yn impresario enwog.[2]
Cyfeiriadau