Roedd Wolfgang Amadeus Mozart (27 Ionawr1756 – 5 Rhagfyr1791) yn un o gyfansoddwyr mwyaf dylanwadol a diwyd y cyfnod Clasurol. Fe'i ganwyd yn Salzburg, Awstria a dechreuodd gyfansoddi darnau pan oedd yn bump oed. Pan roedd yn dal yn blentyn aeth ei dad, Leopold Mozart, ag ef i chwarae o flaen teuluoedd crand Ewrop. Mae'n bosibl fod yr holl deithio wedi achosi problemau iechyd iddo yn hwyrach yn ei fywyd.
Bu farw ym 1791 yn drychinebus o ifanc, yn dlawd, ond wedi cyfansoddi cannoedd o ganeuon sy'n adnabyddus hyd heddiw.
Ysgrifennodd Mozart 68 symffoni, 27 concerto piano, yn ogystal â choncerti i'r clarinet, y corn Ffrengig, yr obo, y fiola, y ffidil, y ffliwt a'r telyn.
Bywyd personol
Rhoddodd rhieni Mozart yr enw llawn Johannes Chrysostomus Wolfgangus Theophilus Mozart iddo. Ei dad oedd y cyfansoddwr o'r Almaen Johann Georg Leopold Mozart, oedd yn byw yn Awstria am rhan fwyaf ei fywyd.
Ei wraig oedd Constanze Weber. Caswsant chwech o blant, gan gynnwys Karl Thomas Mozart a'r cyfansoddwr Franz Xaver Wolfgang Mozart. Enwau eu plant eraill, bu farw yn eu plentyndod oedd Theresia Constanzia Adelheid Friedericke Maria Anna Mozart a Anna Maria Mozart (merched) a Johann Thomas Leopold Mozart a Raimund Leopold Mozart (bechgyn).
Gweithiau
Operáu gan Mozart
Die Schuldigkeit des ersten Gebotes, K. 35 (1767)
Apollo et Hyacinthus, K. 38 (1767)
Bastien et Bastienne, K. 50 (1768)
La finta semplice, K. 51 (1768)
Mitridate, K. 87 (1770)
Ruggiero (1771)
Ascanio in Alba, K. 111 (1771)
Betulia Liberata, K. 118 (1771)
Il sogno di Scipione, K. 126 (1772)
Lucio Silla, K. 135 (1772)
Thamos, König in Ägypten (1773, 1775)
La finta giardiniera, K. 196 (1774)
Il rè pastore, K. 208 (1775)
Zaide, K. 344 (1779)
Idomeneo, K. 366 (1780)
Die Entführung aus dem Serail neu Il Seraglio, K. 384 (1782)
Ym 1791, dechreuodd Mozart ysgrifennu Requiem sydd yn gasgliad o ddarnau gerddoriaeth i dalu teyrnged i’r meirw. Ond tra bod Mozart yn ganol ysgrifennu ei waith, bu farw yn Vienna, Awstria ar 5 Rhagfyr. Cafodd y requiem ei gwblhau yn ddiweddarach gan ei ddisgyblion, Franz Xaver Süssmayr, Joseph Eybler a Freystadler.