Cyfansoddwr Eingl-Gymreig oedd Horace Ian Parrott, FRSA (5 Mawrth 1916 – 4 Medi 2012).[1] Ganwyd yn Streatham, Llundain, a gwasanaethodd yng Nghorfflu Brenhinol y Signalau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[2] Roedd yn Athro Cerdd Gregynog yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth o 1950 hyd 1983.[3]
- Elgar (Master Musicians Series; 1971)
- The Music of Rosemary Brown (1978)
- Cyril Scott and His Piano Music (1992)
- The Crying Curlew: Peter Warlock: Family and Influences (1994)
- Parrottcisms (hunangofiant; 2003).
Cyfeiriadau