Mae hydrocortison yn gemegyn sydd a'r union gyfansoddiad cemegol a'r hormon cortisol sy'n cael ei gynhyrchu gan y chwarren uwcharennol[1]. Mae'n cael ei
Hydrocortison ar gyfer chwistrell | |
| Enghraifft o: | Wikimedia permanent duplicate item |
|---|---|
| Dynodwyr | |
Mae hydrocortison yn gemegyn sydd a'r union gyfansoddiad cemegol a'r hormon cortisol sy'n cael ei gynhyrchu gan y chwarren uwcharennol[1]. Mae'n cael ei ragnodi i gymryd lle'r hormonau naturiol pan nad yw'r chwarren uwcharennol yn cynyrchu digonedd ohonynt[2].
Mae brif ddefnydd y cyffur ar gyfer trin amrywiaeth o gyflyrau o lid ac o alergedd. Fel meddyginiaeth argroenol mae'n cael ei ddefnyddio i roi rhyddhad i lid y croen, y llygaid a'r glust allanol. Mae'n cael ei ddefnyddio wedi ei weini trwy'r genau neu chwistrelliad i ryddhau symptomau'r gwynegon, llid y coluddion a chyflyrau alergaidd. Wedi ei chwistrellu yn unionsyth i gyhyr mae'n cynnig rhyddhad i boen ac anystwythder[3].
Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys diffyg traul, cynyddu pwysau ac acne. Mae sgil effeithiau llai cyffredin yn cynnwys gwendid yn y cyhyrau, newid tymer, misglwyf afreolaidd. Mae defnydd hirdymor yn gallu arwain at wlser, glawcoma, osteoporosis ac (yn achos plant) arafwch tyfu.
Does dim tystiolaeth bod defnydd argroenol yn achosi unrhyw effaith ar y fam feichiog na'r babi yn y groth. Gall paratoadau trwy'r genau effeithio ar ddatblygiad y babi. Mae'r cyffur yn pasio i mewn i laeth y bron, gan hynny nid yw'n cael ei argymell i'r sawl sy'n bwydo ar y fron.
Gall yfed diodydd meddwol ar yr un pryd a chymryd tabledi hydrocortison ychwanegu at y risg o ddatblygu wlserau peptig.
Ac eithrio ambell i baratoad hufen argroenol gwan mae angen rhagnodyn i gael hydrocortison yn y DU. Mae ar gael ar ffurf tabled, losin, chwistrelliad, ewyn rectwm, hufen, eli a diferion clust neu lygaid[4].
Mae hydrocortison ar gael fel cyffur generig ac o dan yr enwau brand[5]:
Mae hefyd yn rhan o'r paratoadau cyfansawdd Alphaderm, Xyloproct ac eraill.
Darganfuwyd hydrocortison ym 1955. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.
| Cyngor meddygol |
|
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.