Llysieuyn bychan ydy'r hopys (Lladin: Humulus lupulus) a ddefnyddir i roi blas a chadernid i gwrw ac mewn moddion llysieuol. Credir iddo gael ei ddefnyddio i ro

Llysieuyn bychan ydy'r hopys (Lladin: Humulus lupulus) a ddefnyddir i roi blas a chadernid i gwrw ac mewn moddion llysieuol. Credir iddo gael ei ddefnyddio i roi blas ar gwrw mor bell yn ôl â'r 11g ond mae dogfennau o'r Almaen yn dangos iddyn nhw gael eu tyfu yno yn 736 O.C.[1] Gall y planhigyn dyfu'n gyflym iawn ac fel arfer fe'i gwelir yn dringo rhesi o linyn mewn caeau pwrpasol, hyd at 6 metr o ran hyd.
Dywedir ei fod yn blanhigyn da ar gyfer gwella diffyg cwsg mewn person o'i yfed fel te; gellir hefyd ei stwffio y tu fewn i'r gobennydd.[2] Mae Comisiwn Ymchwil i Iechyd, yr Almaen wedi profi y tu hwnt i amheuaeth ei fod yn dda i gynorthwyo person i gysgu.[3]
Cred llawer fod gan y llysieuyn hwn rinweddau eraill, sef at y diffyg traul ac fel antiseptig. Gan ei fod yn perthyn i'r un teulu â marijuana, cred rhai bod y perthynas â chwsg yn deillio o'r un fan.[3]
Gellir ei gymryd wrth ei hun, ond fel arfer, cymysgir ef gyda pherlysieuyn rhinweddol arall, sef Triaglog (valarian).
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.