Tref a phlwyf sifil yn Swydd Rydychen, De-ddwyrain Lloegr, ydy Henley-on-Thames[1] neu Henley. Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan De Swydd Rydychen. Saif ar Afon Tafwys, ger Reading. Mae'n enwog oherwydd Regata Frenhinol Henley (cystadleuaeth rhwyfo) sy'n digwydd yno'n flynyddol.